Bou Salem
Gwedd
| Math | bwrdeistref Tiwnisia |
|---|---|
| Poblogaeth | 35,192 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | delegation of Bou Salem |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 36.611118°N 8.969822°E |
| Cod post | 8170 |
![]() | |
Dinas yng ngogledd-orllewin Tiwnisia yw Bou Salem. Mae'n gorwedd yn nyffryn afon Medjerda, ar lan ogleddol yr afon honno, yn nhalaith Jendouba, tua hanner ffordd rhwng dinasoedd Jendouba (i'r gorllewin) a Béja (i'r dwyrain). Mae ganddi boblogaeth o 20,098 (2004).
I'r gogledd o'r dref mae'r tir yn codi'n araf i fynyddoedd coediog y Kroumirie. Mae Bou Salem yn ganolfan amaethyddol a cheir nifer o ffermydd yn y wlad o'i chwmpas. Mae ganddi orsaf ar reilffordd Tiwnis-Ghardimaou a rhed y briffordd GP5 trwy'r dref. Ar ei chyrion ceir pont ar afon Bou Hertma, sy'n disgyn o'r Kroumirie i'w chymer ar afon Medjerda gerllaw.
Enwir y dref ar ôl sant lleol, Sidi Bou Salem.
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol Bou Salem Archifwyd 2008-02-22 yn y Peiriant Wayback (Ffrangeg) (Arabeg) (Saesneg)
