Afon Shannon
(Ailgyfeiriad oddi wrth Afon Llinon)
Jump to navigation
Jump to search
![]() | |
Math |
afon ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
54.2347°N 7.919°W, 52.6767°N 8.7545°W ![]() |
Aber |
Aber Afon Llinon ![]() |
Llednentydd |
Afon Inny, Afon Feale, Afon Suck, Afon Brosna, Afon Brosna Bach, Afon Boyle ![]() |
Dalgylch |
15,700 cilometr sgwâr ![]() |
Hyd |
368 cilometr ![]() |
Arllwysiad |
200 metr ciwbic yr eiliad ![]() |
Llynnoedd |
Lough Ree, Loch Deirgeirt ![]() |
![]() | |
Afon Shannon (Gwyddeleg: Sionainn neu Sionna) yw afon fwyaf Iwerddon. Yn cynnwys yr aber, mae'n 386 km (240 milltir) o hyd. Mae'n debyg mai'r afon yma yw Afon Llinon y cyfeirir ati yn chwedl Branwen ferch Llŷr ym Mhedair Cainc y Mabinogi.
Mae'r afon yn rhannu gorllewin a dwyrain yr ynys; dim ond mewn llai nag ugain man y gellir ei chroesi rhwng Carrick on Shannon yn y gogledd a'i haber ger Limerick, lle mae'n ymuno a Môr Iwerydd.
Yn draddodiadol, ceir tarddle'r afon yn y Shannon Pot, pwill bychan ar lechweddau Mynydd Cuilcagh yn Swydd Cavan. Mae'n llifo trwy 13 o siroedd Iwerddon, a thrwy nifer o lynnoedd, yn cynnwys Lough Allen, Lough Ree a Lough Derg.