Afon Dvina Ogleddol

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ffurfir Afon Dvina Ogleddol fel cyflifiad Afon Yug (chwith) ac Afon Sukhona (top) ger Velikiy Ustyug.

Afon yng ngogledd Rwsia yw Afon Dvina Ogleddol (Rwseg: Се́верная Двина́, Severnaya Dvina IPA: [ˈsʲevʲɪrnəjə dvʲɪˈna]; Comeg: Вы́нва / Výnva, Ffineg: Vienanjoki) sy'n llifo drwy Oblast Vologda ac Oblast Arkhangelsk i mewn i Fae Dvina yn y Môr Gwyn. Gyda Afon Pechora i'r dwyrain, mae'n cymryd y rhan fwyaf o ddŵr gogledd-orllewin Rwsia i Gefnfor yr Arctig. Ei hyd yw 744 km (462 milltir).

Prif isafonydd Afon Dvina Ogleddol yw Afon Vychegda (dde), Afon Vaga (chwith), ac Afon Pinega (dde).

Ffurfir yr afon yn y man lle cyfuna Afon Yug ac Afon Sukhona ger Velikiy Ustyug.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


Flag Russia template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.