Afon Daugava

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Afon Daugava yn Riga, Latfia

Afon yng ngogledd-ddwyrain Ewrop yw Afon Daugava neu Afon Dvina Orllewinol sy'n tarddu ym Mryniau Valdai, Rwsia, ac sy'n llifo trwy Rwsia (Oblast Smolensk ac Oblast Tver), Belarws, a Latfia, i orffen ei thaith yng Ngwlff Riga yn Latfia, sy'n fraich o'r Môr Baltig. Cyfanswm hyd yr afon yw 1,020 km (630 milltir): 325 km (202 milltir) yn Rwsia, 338 km (210 milltir) ym Melarws, a 352 km (219 milltir) yn Latfia. Yn y 19eg ganrif roedd camlas yn ei chysylltu ag afonydd Berezina a Dnieper (nid yw'n cael ei defnyddio heddiw). Ffurfia Afon Daugava ran o'r ffin ryngwladol rhwng Latfia a Belarws.

Isafonydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Dinasoedd a threfi ar ei glan[golygu | golygu cod y dudalen]

Rwsia[golygu | golygu cod y dudalen]

Andreapol, Zapadnaya Dvina a Velizh.

Belarws[golygu | golygu cod y dudalen]

Ruba, Vitebsk, Beshankovichy, Polatsk, Navapolatsk, Dzisna, Verkhnedvinsk, a Druya.

Latfia[golygu | golygu cod y dudalen]

Krāslava, Daugavpils, Līvāni, Jēkabpils, Pļaviņas, Aizkraukle, Jaunjelgava, Lielvārde, Kegums, Ogre, Ikšķile, Salaspils a Riga.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: