Afal taffi
Gwedd
Math | melysion |
---|---|
Yn cynnwys | afal |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Melysfwyd sy'n boblogaidd yng Ngwledydd Prydain yn ystod tymor yr hydref yw afal taffi.[1] Dodir afal ffres ar wäell a'i drochi mewn surop siwgr berwi sydd wedi ei liwio'n goch. Gadewir i'r surop galedu ar groen yr afal. Gwerthir yn y ffair, ac erbyn heddiw caiff yr afal taffi ei lapio mewn seloffen i'w gadw'n lân.[2] Bwyteir yn aml i ddathlu Calan Gaeaf a Noson Guto Ffowc.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Geiriadur yr Academi, [toffee: toffe-apple].
- ↑ Davidson, Alan. The Oxford Companion to Food (Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2006), t. 801.