Aelrhiw

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Aelrhiw
Eglwys S Aelrhiw a Rheithordy Rhiw St Aelrhiw's and Rectory - geograph.org.uk - 568285.jpg
Ganwyd 6G Edit this on Wikidata
Y Rhiw Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth Offeiriad Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl 9 Medi Edit this on Wikidata

Sant o'r 6g a gysylltir gyda phentref y Rhiw yn Llŷn yw Aelrhiw, ond mae'n fwy na phosib nad oedd person o'r enw yma'n bodoli, ac mai camsillafiad ydyw. Yn ôl Rice Rees, yn Bonedd y Saint (tt.306, 332) cysegrwyd Eglwys y Rhiw yn wreiddiol i'r 'Ddelw Fyw', ac mae'n bosib mai talfyriad llafar o'r enw yma yw enw'r sant. Mae dydd gŵyl y sant ar 9 Medi.[1]

Mae hefyd yn bosib mai tarddiad y gair yw enw sant arall y sonir amdano yn y Bonedd, sef Aelryo (gweler §24(E) yn EWGT t.58) a drawsysgrifwyd o Maelrys ap Gwyddno. (A.W.Wade-Evans yn Arch.Camb. 86 (1931) t.165, PW 87).

Ffynnon Aelrhiw ym mhentref y Rhiw.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhestr o seintiau Cymru

  1. A Welsh Classical Dictionary: People in History and Legend up to about A.D. 1000, ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd 9 Medi 2017.