Neidio i'r cynnwys

Adnan Khashoggi

Oddi ar Wicipedia
Adnan Khashoggi
Adnan Khashoggi yn Ffrainc yn y 1980au.
Ganwyd25 Gorffennaf 1935 Edit this on Wikidata
Mecca Edit this on Wikidata
Bu farw6 Mehefin 2017 Edit this on Wikidata
Lambeth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSawdi Arabia Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Victoria College
  • Prifysgol Taleithiol California, Chico Edit this on Wikidata
Galwedigaetharms trader, person busnes, entrepreneur Edit this on Wikidata
TadMuhammad Khashoggi Edit this on Wikidata
PriodSandra Jarvis-Daly Edit this on Wikidata
PlantNabila Khashoggi, Ali Khashoggi Edit this on Wikidata
PerthnasauJamal Khashoggi Edit this on Wikidata

Dyn busnes a masnachwr arfau o Sawdi Arabia oedd Adnan Khashoggi (25 Gorffennaf 19356 Mehefin 2017).[1]

Bywyd cynnar a theulu

[golygu | golygu cod]

Ganed ef ym Mecca, yn fab hynaf i Muhammad Khashoggi, meddyg personol i'r Brenin Ibn Saud. Disgynna'r teulu Khashoggi o Dyrciaid o Kayseri a benderfynodd ymsefydlu yn Arabia ar ôl cyflawni pererindod yr Hajj. Aeth i Goleg Victoria yn Alecsandria, yr Aifft, cyn astudio peirianneg yng Ngholeg Taleithiol Chico (bellach yn rhan o Brifysgol Daleithiol Califfornia).[1]

Roedd Khashoggi yn briod deirgwaith: i Soraya (Sandra Daly, o Loegr) o 1961 i 1974, i Lamia (Laura Biancolini, o'r Eidal) o 1979 hyd at ddiwedd ei oes, ac i Shahpari Azam Zanganeh (o Iran) o 1991 i 2014. Cafodd pedwar mab ac un ferch gyda'i wraig gyntaf, un mab gyda'i ail wraig, ac un mab ac un ferch gyda'i drydedd wraig.[1]

O 1954 i 1956, roedd ei chwaer Samira yn briod â'r dyn busnes Mohamed Al-Fayed, a fu'n gweithio i Khashoggi am gyfnod. Roedd Khashoggi felly yn ewythr i'w mab, y cynhyrchydd ffilm Dodi Fayed. Yn y 1980au, pan oedd Mohamed Al-Fayed yn cystadlu â Tiny Rowland dros reolaeth y siop adrannol Harrods, gwerthodd Khashoggi wybodaeth (gan gynnwys ffugwybodaeth) am ei gyn-frawd-yng-nghyfraith i Rowland am fenthyciad o $7 miliwn. Ni fyddai'n aildalu'r benthyciad.[1]

Gyrfa fusnes

[golygu | golygu cod]

Tra'n astudio yng Nghaliffornia, gwelodd Khashoggi gyfleoedd i gysylltu cwmnïau Americanaidd â chyfoeth newydd y diwydiant olew yn Sawdi Arabia. Aeth ati i sefydlu busnes mewnforio, a daeth â lorïau Americanaidd mawr o'r Kenworth Truck Company i Sawdi Arabia. Un o'i gwsmeriaid cyntaf oedd Saudi Binladin, uwchgwmni adeiladu'r teulu Bin Laden. Daeth dau o hanner-frodyr y Brenin Saud yn bartneriaid busnes iddo. Gweithiodd Khashoggi yn asiant ar gyfer Rolls Royce, Marconi, Westland, a BAC (British Aircraft Corporation, yn ddiweddarach British Aerospace/BAe).[1]

Dechreuodd Khashoggi fasnachu arfau ym 1962, gan gyflenwi lluoedd Teyrnas Iemen, a oedd yn ymladd rhyfel cartref yn erbyn Gweriniaeth Arabaidd Iemen a gafodd ei chefnogi gan yr Aifft. Yn sgil methiant y gwledydd Arabaidd yn erbyn Israel yn y Rhyfel Chwe Diwrnod (1967), bu llywodraeth Sawdi Arabia yn buddsoddi'n helaeth yn y diwydiant amddiffyn, gan fanteisio ar gynnydd yn y pris olew. Daeth Khashoggi i'r brig fel un o ladmeryddion y fasnach arfau a chyfarpar milwrol, ac yn asiant ar gyfer taflegrau Hawk y cwmni Raytheon, awyrennau cargo C-130 Lockheed, ac awyrennau ymladd F-5 Northrop.[1]

Cyfoeth a chymdeithas

[golygu | golygu cod]

Roedd Khashoggi yn enwog am ei fywyd moethus. Roedd ganddo 12 o gartrefi, mil o siwtiau, tair iot, ac awyren Douglas DC-8.[1]

Erbyn canol y 1980au, roedd yn colli arian. Er gwaethaf, parhaodd i wario'n hael, ac yn y diwedd bu'n rhaid gwerthu ei awyren, ei gychod a'i gartrefi i ad-dalu ei gredydwyr.

Sgandalau a thrafferthion cyfreithiol

[golygu | golygu cod]

Cafodd Khashoggi ei archwilio gan y rheoleiddwyr yn yr Unol Daleithiau, ac yn ôl ymchwiliad gan Senedd yr Unol Daleithiau ym 1975 cafodd ei dalu $106 miliwn gan Lockheed, $54 miliwn gan Northrop, a $23 miliwn gan Raytheon.

Roedd Khashoggi yn "ddyn canol" a gynorthwyodd gwerthiannau arfau gan yr Unol Daleithiau i Iran, rhan o sgandal Iran-Contra.[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 3 4 5 6 7 (Saesneg) Michael Gillard, "Adnan Khashoggi obituary, The Guardian (7 Mehefin 2017). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 14 Hydref 2018.
  2. (Saesneg) Marilyn Berger, "Entangled Saudi Who Lives Like King", The New York Times (8 Rhagfyr 1986). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 30 Hydref 2024.