Achille Compagnoni
Jump to navigation
Jump to search
Achille Compagnoni | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 26 Medi 1914 ![]() Rhanbarth Sondrio ![]() |
Bu farw | 13 Mai 2009, 12 Mai 2009 ![]() Aosta ![]() |
Dinasyddiaeth | Yr Eidal, Brenhiniaeth yr Eidal ![]() |
Galwedigaeth | fforiwr, deu-athletwr, sgiwr mynyddoedd, dringwr mynyddoedd ![]() |
Gwobr/au | Marchog Uwch-Groes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal ![]() |
Chwaraeon |
Dringwr Eidalaidd oedd Achille Compagnoni (26 Medi 1914 - 13 Mai 2009). Gyda Lino Lacedelli, ef oedd y cyntaf i gyrraedd copa K2.
Ganed ef yn Santa Caterina di Valfurva. Roedd yn aelod o'r tîm Eidalaidd dan arweiniad Ardito Desio a fu'n ceisio dringo K2, mynydd ail-uchaf y byd, ac ar 31 Gorffennaf 1954, cyrhaeddodd ef a Lacedelli y copa.
Yn ddiweddarach, bu ffrae rhwng Compagnoni a Walter Bonatti, aelod arall o'r tîm; haerai Compagnoni fod Bonatti wedi defnyddio rhan o'r ocsigen oedd i fod i'w gadw ar gyfer yr ymgais i gyrraedd y copa. Diweddodd hyn mewn achos cyfreithiol, a dyfarnodd y llys nad oedd Bonatti wedi gwneud hyn.