Achadh an Dá Chora
![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Cylchfa amser | UTC+00:00 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gogledd Iwerddon ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 54.4422°N 6.6856°W ![]() |
![]() | |
Mae Achadh an Dá Chora (Saesneg Charlemont yn bentref bychan yn Swydd Armagh , Gogledd Iwerddon.[1] Saif ar lan ddeheuol An Abhainn Dubh (Blackwater River), bum milltir i'r gogledd-orllewin o ddinas Ard Mhacha. Mae Pont Achadh an Dá Chora yn ei chysylltu â phentref cyfagos An Mhaigh (Moy), Swydd Tyrone. Roedd ganddo boblogaeth o 109 o bobl (52 o aelwydydd) yng Nghyfrifiad 2011.[2]
Hanes
[golygu | golygu cod]Mae'r enw Gwyddelig Achadh an Dá Chora yn golygu "cae'r ddau gored". Mae'r enw Saesneg Charlemont er anrhydedd i Charles Blount, 8fed Barwn Mountjoy, a adeiladodd bont a chaer yma ym 1602 er mwyn amddiffyn dyffryn An Abhainn Dubh yn erbyn yr Iarll Tyrone gwrthryfelgar.[3] Daeth Syr Toby Caulfeild yn llywodraethwr y gaer y flwyddyn ganlynol.[4] Erbyn 1611, roedd trefgordd wedi tyfu i fyny o amgylch y gaer, "wedi'i ailgyflenwi â llawer o drigolion Seisnig a Gwyddelig, sydd wedi adeiladu tai da." Fe'i hymgorfforwyd fel bwrdeistref ym 1613.[4]
Cadwodd Caer Charlemont ei arwyddocâd milwrol ar ôl i Wrthryfel Tyrone ddod i ben. Ailadeiladodd Caulfeild yr amddiffynfeydd ym 1622, gan ychwanegu tŷ llywodraethwr tri llawr. Ar ddechrau Gwrthryfel 1641, cymerwyd y gaer gan Syr Phelim O'Neill mewn ymosodiad annisgwyl. Gwnaed nifer o ymdrechion i'w ail-gipio, ond er gwaethaf ymdrechion y Brenhinwyr a'r Cyfamodwyr, arhosodd yn nwylo O'Neill tan 1650, pan wnaeth llu Cromwell ei ddiorseddu ar ôl gwarchae gwaedlyd.[5]
Ym 1664, gwerthodd William Caulfeild Caer Charlemont i'r goron am £3500.[6] Gosododd Iago II Teig O'Regan fel llywodraethwr ar y gaer ym 1689, a threuliodd noson yma ar ei ffordd i Warchae Derry. Daeth dan warchae eto yn 1690 pan gyrhaeddodd Marshal Schomberg, gan orfodi O'Regan i ildio iddo.[5]
Parhaodd Caer Charlemont i gynnal garsiwn trwy gydol y 18fed ganrif, ond daeth yn llai defnyddiol wedi hynny a thynnodd y llywodraeth y garsiwn olaf yn ôl ym 1856. Ym 1859 fe'i gwerthwyd i Iarll Charlemont am £12,884 5s[5] gan adael dim ond y porthdy yn sefyll. Mae'r porthdy yn dal i sefyll hyd heddiw.
Yr Helyntion
[golygu | golygu cod]Ar 15 Mai 1976, lansiodd Llu Wirfoddolwyr Ulster (yr UVF) ddau ymosodiad ar dafarndai yn Achadh an Dá Chora. Lladdwyd dri sifiliad Catholig yn yr ymosodiad bom ar Clancy's Bar: Felix Clancy, 54 oed, Sean O'Hagan, 22 oed, a Robert McCullough, 41 oed.[7] Yn fuan wedi hynny, arweiniodd ymosodiad gwn ar yr Eagle Bar gerllaw at farwolaeth sifiliaid Catholig arall: Frederick McLoughlin, 49 oed, bythefnos yn ddiweddarach.[8] Cafwyd milwr Catrawd Amddiffyn Ulster (yr UDR) yn euog yn ddiweddarach am gymryd rhan yn yr ymosodiadau, oedd wedi cael eu cysylltu â'r " gang Glenanne".[9]
Addysg
[golygu | golygu cod]- Ysgol Gynradd San Pedr
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Map o'r gaer ym 1624
-
Darluniad o'r gaer. Dienw tua'r 18g
-
Y bont rhwng Achadh an Dá Chora ac An Mhaigh
-
Neuadd yr Urdd Oren
-
Eglwys Anglicanaidd St Pedr
-
Tŷ Cwrdd y Crynwyr
-
An Abhainn Dubh (Afon Ddu)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Place Names NI - Charlemont, County Armagh". www.placenamesni.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-04-11. Cyrchwyd 2021-06-14.
- ↑ "2011 Census - Table Lookups". Northern Ireland Statistics and Research Agency (yn Saesneg). 2017-01-05. Cyrchwyd 2021-06-14.
- ↑ O'Neill, James (2013–14). "The Cockpit of Ulster: War Along the River Blackwater, 1593–1603". Ulster Journal of Archaeology (Ulster Archaeological Society) 72: 194.
- ↑ 4.0 4.1 Hunter, R. J. (1971). "Towns in the Ulster Plantation". Studia Hibernica (Liverpool University Press) 11: 66–68. JSTOR 20495983.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 O'Neill, James; Logue, Paul. "Charlemont Fort: A Brief Guide" (PDF). History Armagh. Cyrchwyd 14 Mehefin 2021.
- ↑ (Saesneg) "Caulfeild, William, first Viscount Charlemont". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
- ↑ "Northern Ireland". House of Commons Hansard (17 May 1976 vol 911 cc 957-64). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-06-14. Cyrchwyd 14 Mehefin 2021.
- ↑ "Sutton Index of Deaths, 1976". Conflict Archive on the Internet (CAIN). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-05-14. Cyrchwyd 4 December 2011.
- ↑ Cassel, Douglass (2006). REPORT OF THE INDEPENDENT INTERNATIONAL PANEL ON ALLEGED COLLUSION IN SECTARIAN KILLINGS IN NORTHERN IRELAND (PDF). Notre Dame, Indiana USA: Center for Civil and Human Rights Notre Dame Law School. t. 25. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2011-06-10. Cyrchwyd 2021-06-14.