Acetylcystein

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Acetylcysteine)
Acetylcystein
Enghraifft o'r canlynolmath o endid cemegol Edit this on Wikidata
MathN-acetyl-DL-cysteine Edit this on Wikidata
Màs163.03 uned Dalton Edit this on Wikidata
Fformiwla gemegolC₅h₉no₃s edit this on wikidata
Enw WHOAcetylcysteine edit this on wikidata
Clefydau i'w trinTrafferth anadlu, ffibrosis systig, bronciectasis, broncitis acíwt, afiechyd yr ysgyfaint, emffysema ysgyfeiniol, niwmonia, amyloidosis edit this on wikidata
BeichiogrwyddCategori beichiogrwydd awstralia b2, categori beichiogrwydd unol daleithiau america b edit this on wikidata
Yn cynnwysnitrogen, carbon, ocsigen, sylffwr, hydrogen Edit this on Wikidata
GwneuthurwrPfizer Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae acetylcystein, sydd hefyd yn cael ei alw’n N-acetylcystein (NAC), yn feddyginiaeth a ddefnyddir i drin gorddosau parasetamol (acetaminoffen) ac i lacio mwcws tew mewn unigolion sydd â ffeibrosis systig neu glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint.[1] Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw C₅H₉NO₃S.

Defnydd[golygu | golygu cod]

Gellir ei gymryd trwy wythïen, ceg, neu ei anadlu ar ffurf niwl. Mae rhai pobl yn ei ddefnyddio fel atodiad dietegol.[2]

Sgil effeithiau[golygu | golygu cod]

Gall y feddyginiaeth arwain at rai sgil effeithiau megis chwydu, os cymerir drwy’r geg. Efallai y bydd y croen yn cochi gyda'r naill ddull. Weithiau fe achosir math o an-imiwnedd o anaffylacsis. Ymddengys yn ddiogel ar gyfer y rheini sy'n feichiog. Mae'r feddyginiaeth yn gweithio drwy godi lefelau glutathione a rhwyma wrth gynhyrchion gwenwynig parasetamol.

Hanes[golygu | golygu cod]

Yn wreiddiol, gosodwyd asetylcystein oddi tan batent ym 1960 ac fe drwyddedwyd ym 1968. Ymddengys ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd. Gellir cael mynediad iddo fel meddyginiaeth generig, ac o ran cost, y mae'n weddol resymol.[3]

Defnydd meddygol[golygu | golygu cod]

Fe'i rhoddir fel triniaeth ar gyfer gwahanol gyflyrau meddygol, gan gynnwys:

  • trafferth anadlu
  • ffibrosis systig
  • bronciectasis
  • broncitis acíwt
  • afiechyd yr ysgyfaint
  • emffysema ysgyfeiniol
  • niwmonia
  • Enwau[golygu | golygu cod]

    Caiff cyffuriau eu hadnabod gan amryw o enwau gwahanol yn aml. Enw cemegol y cyffur hen yw Acetylcystein, ond rhoddir enwau masnachol a brand iddo hefyd, gan gynnwys;


    Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

    1. Pubchem. "Acetylcystein". pubchem.ncbi.nlm.nih.gov (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-02-28.
    2. "Cysteine". University of Maryland Medical Center (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Gorffennaf 2017. Cyrchwyd 23 Mehefin 2017. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
    3. Baker E (2014). Top 100 drugs : clinical pharmacology and practical prescribing. t. Acetylcysteine. ISBN 9780702055157. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Medi 2017. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)


    Cyngor meddygol

    Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

    Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!