Abermarlais

Oddi ar Wicipedia
Abermarlais
Mathmaenordy wedi'i amddiffyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.94857°N 3.904558°W Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethSyr Henry Jones Edit this on Wikidata

Safle hynafol yng nghymuned Llansadwrn, Sir Gaerfyrddin lle codwyd plasdy enwog gan hynafiaid Syr Rhys ap Thomas yw Abermarlais. Does dim olion o'r plasdy ei hun ar y safle heddiw, ond bu'n un o ganolfannau amlycaf de-orllewin Cymru yn yr Oesoedd Canol.

Credir bod plasdy wedi'i godi ar y safle efallai mor gynnar â'r 14g. Dyma gartref Rhys ap Gruffudd, taid Syr Rhys ap Thomas, a arweiniodd y Cymry ym Mrwydr Crécy. Ar ddiwedd y 15g a dechrau'r ganrif olynol, Abermarlais oedd prif lys Syr Rhys ap Thomas, cynghreiriad pennaf Harri Tudur ar Faes Bosworth ac arglwydd de facto rhan sylweddol o orllewin Cymru. Tyrrai beirdd yno o bob rhan o Gymru, ac yn eu plith Lewys Glyn Cothi.

Ar farwolaeth Rhys ap Thomas yn 1525, etifeddwyd y plas a'r ystad gan ei ŵyr, Syr Rhys ap Gruffudd ap Thomas. Ond dienyddwyd yr arglwydd ifanc gan Harri VIII o Loegr ar gyhuddiad o deyrnfradwriaeth a chynllwyno gyda'r Gwyddelod (mae'n debyg mai ofn grym a dylanwad teulu Syr Rhys a'i dueddiadau annibynnol oedd y gwir reswm) a meddianwyd Abermarlais gan Goron Lloegr.

Ymwelodd yr hynafiaethydd John Leland ag Abermarlais yn y 1530au. Dywed: "The parke there is paled, and in cumpas .ii. miles and a half and well wooded."[1] Yn yr adroddiad gan gomisiynwyr y Goron yn 1532, dywedir bod y plasdy yn sefyll mewn parc ac yn cael ei amgylchynnu gan glawdd a ffos o ddŵr. Roedd y prif adeilad yn mesur 136 wrth 33 troedfedd. Roedd porth mawr i'r parc a stablau eang gyda lle i ugeiniau o feirch (roedd Syr Rhys yn enwog am ei farcholgu o Gymry).[2]

Cafodd yr hen blasdy ei ddymchwel yn 1803 a chodwyd tŷ newydd ar y safle, ond tynnwyd hynny i lawr yn y 1970au. Mae adfail y porthdy gwreiddiol yn dal i sefyll. Erbyn heddiw mae rhan o dir yr ystad yn wersyll carafanau.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Dyfynnir gan Ralph A. Griffiths, Sir Rhys ap Thomas..., tud. 74.
  2. Ralph A. Griffiths, Sir Rhys ap Thomas..., tud. 74.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]