Abdulrahim Abby Farah

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Abdulrahim Abby Farah
عبد الرحيم آبي فرح
Cynrychiolydd parhaol Somalia i'r Cenhedloedd Unedig
Mewn swydd
1965–1972
Prif Weinidog Abdirizak Haji Hussein
Llysgennad Somalia i Ethiopia
Mewn swydd
1961–1965
Prif Weinidog Abdirashid Ali Sharmarke
Manylion personol
Ganed 22 Hydref 1919
Y Barri
Bu farw 14 Mai 2018(2018-05-14) (98 oed)
Efrog Newydd
Plaid gwleidyddol Urdd Ieuenctid Somali
Alma mater Coleg Exeter, Rhydychen
Prifysgol Rhydychen
Crefydd Islam

Diplomydd a gwleidydd Somali oedd Abdulrahim Abby Farah (Lua error in package.lua at line 80: module 'Module:Unicode data' not found., Arabeg: عبد الرحيم آبي فرح‎)‎ 22 Hydref 191914 Mai 2018). Bu'n gwasanaethu fel Cynrychiolydd Parhaol o Somalia i'r Cenhedloedd Unedig, ac fel y Llysgennad o Somalia i Ethiopia.[1] Ef oedd cadeirydd y sefydliad anllywodraethol PaSAGO.

Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Farah ar 22 Hydref 1919, yn y Barri, Cymru, ond mae'n hanu o is-lwyth Issa Musse yr Isaaq.[2][3]

Ar gyfer ei addysg drydyddol, enillodd radd o Goleg y Brifysgol, Exeter a Prifysgol Rhydychen yn Lloegr.

Roedd Farah yn briod gyda phump o blant.[4]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Cychwynnodd Farah ei yrfa diplomyddol gyda gweinyddiaeth Ymddiriedolaeth Tiriogaeth Somaliland, ac ar ôl annibyniaeth, gyda llywodraeth sifil cynnar Gweriniaeth Somali.Gwasanaethodd mewn sawl swydd yno rhwng 1951 a 1961, gan gynnwys fel Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwybodaeth Somali.

Rhwng 1961 a 1965, roedd Farah yn Llysgennad Somalia i Ethiopia. Bu'n gweithredu fel cynrychiolydd Somalia i Gomisiwn Economaidd y Cenhedloedd Unedig dros Affrica (ECA) yn 1962. Cynrychiolodd Farah y wlad hefyd yng nghyfarfodydd Cyngor y Gweinidogion o Sefydliad Undod Affricanaidd (OAU) yn 1964 a 1965.

O 1965 i 1972, roedd Farah yn Cynrychiolydd Parhaol Somalia i'r Cenhedloedd Unedig yn Ninas Efrog Newydd. Ar yr un pryd gwasanaethodd fel y Cyfarwyddwr Cyffredinol dros dro yng Ngweinyddiaeth Materion Tramor Somalia yn 1966.[5]

O 1969 i 1972, roedd Farah yn Gadeirydd Pwyllgor Arbennig yr UN yn Erbyn Apartheid, gan lywyddu dros sesiwn arbennig o Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig yn 1972.[6] Roedd yn gweithredu fel Ysgrifennydd Cynorthwyol-Cyffredinol ar gyfer Cwestiynau Gwleidyddol Arbennig rhwng 1973 a 1978. Yn ogystal a hyn, gwasanaethodd Farah fel cynrychiolydd Somalia o fewn Cynghrair y Gwladwriaethau Arabaidd.[7] O 1979 hyd at 1990, roedd hefyd yn Is-ysgrifennydd-Cyffredinol ar gyfer Cwestiynau Gwleidyddol Arbennig .

Yn 1998, helpodd Farah sefydlu y Bartneriaeth i Gryfhau Sefydliadau Affricanaidd ar lawr gwlad (PaSAGO). Ers hynny, gwasanaethodd felcCadeirydd y corff. Bu farw Farah ym mis Mai 2018 yn 98.[8]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]