Abdullah ibn al-Mu'tazz

Oddi ar Wicipedia
Abdullah ibn al-Mu'tazz
Ganwyd1 Tachwedd 861 Edit this on Wikidata
Samarra Edit this on Wikidata
Bu farw29 Rhagfyr 908, 17 Rhagfyr 908 Edit this on Wikidata
Baghdad Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
SwyddAbbasid caliph Edit this on Wikidata

Bardd Arabeg canoloesol oedd Abdullah ibn al-Mu'tazz (861 - 908). Roedd yn aelod o'r frenhinllin Abbasid, califfiaid Baghdad.

Cafodd ei eni yn Samarra (yng ngogledd Irac heddiw), yn or-or-ŵyr i'r califf mawr Harun al-Rashid. Roedd yn gyfnod o gynllwyniau yn y llys brenhinol a phan lofruddiwyd ei dad ffoes yr al-Mu'tazz ifanc i Fecca am noddfa gyda'i nain. Dychwelodd i Faghdad a thyfodd i fyny i fod yn llenor disglair ac ysgolhaig llenyddol, gan osgoi gwleidyddiaeth y llys. Ond roedd rhai pobl eisiau iddo fod ar yr orsedd i geisio rhoi diwedd ar yr ansefydlogrwydd yn y deyrnas. Cytunodd al-Mu'tazzi yn y diwedd, yn erbyn ei ewyllys, yn 908. Rheolodd am ddiwrnod a noson yn unig cyn ffoi am ddiogelwch. Cafodd ei ddal a'i lindagu.[1]

Roedd yn fardd medrus a edmygid yn fawr gan ei gyfoeswyr. Ysgrifennodd astudiaeth ar farddoniaeth Arabeg glasurol, y Kitab al-Badi. Yn ei gerddi mae crefft al-Mu'tazz yn dwyllodrus o syml. Mae'n canolbwyntio ar gyfuno delweddau trawiadol â metaffor annisgwyl. Mwynheai fywyd i'r eithaf a does ganddo ddim cywilydd mewn canu pleserau'r cnawd a gwin, a gwneud hynny yn y modd mwyaf soffistigedig, bydol a chraff. Eironi a llygad am harddwch a lliw sy'n nodweddu ei farddoni.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 G.B.H. Wightman ac A.Y. al-Udhari (cyf.), Birds Through a Ceiling of Alabaster[:] Three Abbasid poets (Penguin, Llundain, 1975).


Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.