Abdullah al-Baradouni

Oddi ar Wicipedia
Abdullah al-Baradouni
Ganwydعبد الله صالح حسن الشحف البَرَدُّوْنِي Edit this on Wikidata
1 Ionawr 1929 Edit this on Wikidata
Q12184372 Edit this on Wikidata
Bu farw30 Awst 1999 Edit this on Wikidata
Sana'a Edit this on Wikidata
DinasyddiaethIemen Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, athro, hanesydd, awdur geiriau, cyfansoddwr caneuon Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.albaradoni.com Edit this on Wikidata

Bardd o Iemen oedd Abdullah al-Baradouni (192930 Awst 1999).[1]

Ganwyd yn Zaraja a chafodd ei fagu yn Dhamar. Cafodd ei heintio gan y frech wen yn 6 oed a'i ddallu. Cafodd ei addysgu yn y brifddinas Sana'a, a dysgodd llenyddiaeth Arabeg ac hanes gwleidyddol mewn ysgol grefyddol.

Yn y 1950au cafodd ei garcharu am ei wrthwynebiad i'r imamiaid Zaydi oedd yn rheoli'r wlad. Wedi i'r fyddin ddymchwel y frenhiniaeth ym 1962, cafodd Baradouni ei garcharu unwaith eto am ei daliadau adain-chwith. Yn ogystal, cafodd ei alw'n anghrediniwr gan ffwndamentalwyr Mwslimaidd oherwydd ei gefnogaeth dros hawliau merched a democratiaeth. Yn y 1970au daeth yn gadeirydd ar Undeb Llenorion Iemen.

Ysgrifennodd 12 cyfrol o farddoniaeth a chwe llyfr ar bynciau gwleidyddol, llenyddol, llên gwerin, a gwisg. Ymddiddorodd yn nhraddodiadau hynafol Iemen, gan gynnwys llawddewiniaeth a darogan ffa coffi. Fe gofnododd hen gorganeuon sydd yn adrodd hanes y llwythau Iemenaidd a guddiodd mewn ogofâu rhag y Rhufeiniaid.

Bu farw yn 70 oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Lawrence Joffe, Obituary: Abdullah al-Baradouni, The Guardian (9 Medi 1999). Adalwyd ar 30 Tachwedd 2017.