Neidio i'r cynnwys

Abdelbaset al-Megrahi

Oddi ar Wicipedia
Abdelbaset al-Megrahi
Ganwyd1 Ebrill 1952 Edit this on Wikidata
Tripoli Edit this on Wikidata
Bu farw20 Mai 2012 Edit this on Wikidata
Tripoli Edit this on Wikidata
DinasyddiaethLibia Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethperson milwrol Edit this on Wikidata

Dinesydd Libiaidd a gafwyd yn euog o lofruddio 270 o bobl yn nhrychineb Lockerbie oedd Abdelbaset Ali Mohmed al-Megrahi (1 Ebrill 195220 Mai 2012).[1]

Fe'i ganwyd yn Tripoli. Astudiodd yn yr Unol Daleithiau a Chaerdydd yn y 1970au. Yn y 1980au daeth yn bennaeth diogelwch y cwmni hedfan Libyan Arab Airlines (LAA).

Roedd al-Megrahi yn un o'r ddau Libiad a gyhuddwyd o fomio Ehediad Pan Am 103 ym 1988, gan ladd yr holl griw a'r teithwyr ac 11 o bobl ar lawr yn nhref Lockerbie, yr Alban. Yn ôl yr FBI, roedd al-Megrahi yn gweithio i Mukhabarat el-Jamahiriya, yr asiantaeth cudd-wybodaeth Libiaidd. Yn 2001, cafwyd al-Megrahi yn euog o 270 cyhuddiad o lofruddiaeth gan dri barnwr Albanaidd mewn llys yn yr Iseldiroedd. Ni chafwyd Lamin Khalifah Fhimah yn euog o'r un cyhuddiad. Cafodd al-Megrahi ei ddedfrydu i garchar am oes, ond cafodd ei ryddhau o'r carchar yn 2009 am resymau tosturiol, a bu farw o ganser y prostad yn 2012.[2][3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg) Abdelbaset Ali Mohmed al-Megrahi. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Chwefror 2014.
  2. (Saesneg) Obituary: Abdelbaset al-Megrahi. BBC (20 Mai 2012). Adalwyd ar 24 Chwefror 2014.
  3. (Saesneg) Obituary: Abdelbaset Ali al-Megrahi. The Daily Telegraph (20 Mai 2012). Adalwyd ar 24 Chwefror 2014.


Baner LibiaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Libiad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Rhybudd: Mae'r allwedd trefnu diofyn "Al-Megrahi, Abdelbaset" yn gwrthwneud yr allwedd trefnu diofyn blaenorol "al-Megrahi, Abdelbaset".