Neidio i'r cynnwys

9 Tan 9

Oddi ar Wicipedia
9 tan 9
Genre Drama comedi
Ysgrifennwyd gan Eilir Jones
Cyfarwyddwyd gan Cleif Harpwood
Serennu Eilir Jones
Maldwyn John
Cyfansoddwr/wyr Arwyn Davies
Gwlad/gwladwriaeth Cymru
Iaith/ieithoedd Cymraeg
Cynhyrchiad
Cynhyrchydd Norman Williams
Amser rhedeg c.24 munud
Cwmnïau
cynhyrchu
Tonfedd Eryri
Darllediad
Sianel wreiddiol S4C
Rhediad cyntaf yn 2002

Cyfres gomedi sefyllfa Cymraeg oedd 9 Tan 9 neu Naw tan Naw. Roedd yn dilyn helyntion staff un o siopau'r gadwyn dychmygol "Gwalia Stores", rhywle yn Sir Ddinbych, a oedd dan fygythiad parhaus oherwydd cystadleuaeth gan archfarchnad mawr o'r enw "Blerways". Cafodd y gyfres cyntaf ei gynhyrchu yn 2002 gyda phob pennod tua 24 munud o hyd ac yn cymryd slot hanner awr yn amserlen S4C gyda'r hysbysebion. Roedd awdur y gyfres, y digrifwr Eilir Jones, hefyd yn chwarae rhan y cymeriad "Mr Brook Stanley". Tonfedd Eryri oedd yn gyfrifol am gynhyrchu'r rhaglen gafodd ei ffilmio yn Stiwdio Barcud, Caernarfon.

Cast a Chymeriadau

[golygu | golygu cod]

Cynhyrchu

[golygu | golygu cod]
Set y siop yn 9 tan 9

Creodd y cynllunydd Martin Morley set y siop "Gwalia Stores" yn Stiwdio Barcud, Caernarfon, fel bod posib ffilmio'r gyfres o flaen cynulleidfa fyw. Derbyniodd llawer o'r nwyddau am ddim, fel rhyw lun o hysbysebu. Roedd papurau newydd Sir Ddinbych, y Denbighshire Free Press a'r Vale Advertiser i'w weld ar werth yn Gwalia Stores ac yn cael eu ddefnyddio weithiau fel propiau. Cleif Harpwood oedd y cyfarwyddwr.

Derbyniad

[golygu | golygu cod]

Canmoliaeth oedd gan Dylan Wyn, adolygydd teledu BBC Cymru ar y pryd, a ddisgrifiodd un bennod fel "hanner awr o gamddealltwriaeth, ensyniadau rhywiol a mwy o ensyniadau rhywiol yn ôl geiriau fel "codiad" ac ambell frawddeg go goch!".[1] Nododd bod y gynulleidfa yn "glana chwerthin" yn sgil yr iniwendo rhywiol "W-y-misus!" ac ei fod, er gwaetha'r cyfan, wedi glynu gyda'r bennod, a bod "y nofel a'r cliciwr [wedi aros] yn eu hunfan drwy’r hanner awr, ac fe ymunais i â’r chwerthin."[1]

"Hiwmor hollol ansoffistigedig, Noson Lawen-aidd, oedd y cyfan felly. Pwy â wyr – efallai bydd ebychiadau "Ffôr Ffishcêcs!" Llew yr un mor boblogaidd ag "Asiffeta!" C’mon Midffîld."[1]

Penodau

[golygu | golygu cod]

Cyfres 1

[golygu | golygu cod]
# Teitl Cyfarwyddwr Darllediad cyntaf Gwylwyr [2]
1I'w gyhoeddiI'w gyhoeddiI'w gyhoeddix
Daeth Mr Rogers ar ymweliad i'r siop i gyflwyno ei hun fel rheolwr newydd Gwalia Stores.
2I'w gyhoeddiI'w gyhoeddiI'w gyhoeddix
Mae Mr Rogers yn asesu i ddarganfod a yw un o staff y siop yn gymwys i gymryd cyfrifoldeb swydd rheolwr y siop. Chwaraeodd John Pierce Jones rhan ffarmwr yn y bennod.
3I'w gyhoeddiI'w gyhoeddiI'w gyhoeddix
Mae staff Gwalia Stores yn gorfod galw plismon Cadfan Roberts i ymchwilio i ladrata yn y siop. Gyda Michael Jones yn chwarae rhan Guto.
4I'w gyhoeddiI'w gyhoeddiI'w gyhoeddix
Mae Iona yn edrych am gariad.
5I'w gyhoeddiI'w gyhoeddiI'w gyhoeddix
Mae'r siop yn cynnal noson singles i helpu bobol dod o hyd i gariadon. Gydag Iwan Roberts yn chwarae rhan Paul Humphreys a Gareth Owen yn ymddangos fel Dafydd Blodau.
6I'w gyhoeddiI'w gyhoeddiI'w gyhoeddix
Mae pethau'n mynd o'r chwith pan mae criw o blant yn dod i'r siop ar ymweliad o'r ysgol. Mae Janet Aethwy yn chwarae rhan yr athrawes, Ms Griffiths, a Bethan Gwilym yn ymddangos fel cwsmer.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 "BBC CYMRU'R BYD - Teledu". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2025-10-14.
  2. Ffigyrau gan S4C. Gweler [1], Ffigyrau Gwylio S4C.