262 CC
Jump to navigation
Jump to search
4ydd ganrif CC - 3 CC - 2 CC
310au CC 300au CC 290au CC 280au CC 270au CC 260au CC 250au CC 240au CC 230au CC 220au CC 210au CC
Digwyddiadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Yn y Rhyfel Pwnig Cyntaf, mae'r Rhufeiniaid yn gwarchae ar ddinas Agrigentum yn Sicilia, sy'n cael ei hamddiffyn gan y cadfridog Carthaginaidd Hannibal Gisco. Daw byddin Garthaginaidd dan Hanno i geisio codi'r gwarchae, ond mae'r Rhufeiniaid yn fuddugol ym Mrwydr Agrigentum ac yn cipio'r ddinas.
- Dinas Athen yn ildio i'r Macedoniaid dan eu brenin Antigonus II Gonatas wedi gwarchae hir.
- Antiochus I, brenin yr Ymerodraeth Seleucaidd, yn dienyddio ei fab hynaf, Seleucus, ar gyhuddiad o wrthryfel.
- Eumenes I, rheolwr Pergamum, yn gorchfygu Antiochus I mewn brwydr ger Sardis, gan ennill annibyniaeth i Pergamun.
- Antiochus I yn marw, ac yn cael ei olynu gan ei ail fab, Antiochus II Theos.
Genedigaethau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Apollonius o Perga (Pergaeus), seryddwr a mathemategydd Groegaidd
Marwolaethau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Philemon, bardd a dramodydd Groegaidd
- Antiochus I Soter, brenin yr Ymerodraeth Seleucaidd