15810 Arawn

Oddi ar Wicipedia
15810 Arawn
Enghraifft o'r canlynolresonant trans-Neptunian object Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod12 Mai 1994 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd gan(15809) 1994 JS Edit this on Wikidata
Olynwyd gan15811 Nüsslein-Volhard Edit this on Wikidata
Echreiddiad orbital0.120003 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
15810 Arawn

Asteroid bychan ym mhrif wregys asteroid Cysawd yr Haul yw 15810 Arawn. Mae'n rhan o wregys Kuiper, sy'n fodrwy o gwmpas planed Neifion. Mae oddeutu 133 cilometr (83 mi) mewn diametr.[1]

Fe'i canfuwyd ar 12 Mai 1994 gan y seryddwyr Michael J. Irwin ac Anna N. Żytkow, gan ddefnyddio telesgop 2.5-metr a elwir yn 'Delescop Isaac Newton' yn Arsyllfa Roque de los Muchachos ar Ynys La Palma, un o ynysoedd yr Ynysoedd Dedwydd, Sbaen.[1] Cadarnhawyd 15810 Arawn gan long ofod y New Horizons a dynnodd ei lun, o bellter o 111 miliwn km (69 miliwn mi; 0.74 AU) yn Ebrill 2016.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "15810 (1994 JR1)". IAU Minor Planet Center. Cyrchwyd 26 Awst 2016.
  2. http://photojournal.jpl.nasa.gov/catalog/PIA20589