Simbabwe Fawr

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Zimbabwe Fawr)
Neidio i: llywio, chwilio
Rhan o Simbabwe Fawr

Simbabwe Fawr yw'r enw a roddir ar adfeilion dinas hynafol yn Affrica Ddeheuol (lleoliad: 20°16′De 30°54′Dw, yn Simbabwe heddiw) a oedd ar un adeg yn brifddinas i ymerodraeth sylweddol a elwir yn Ymerodraeth Munhumutapa (hefyd 'Monomotapa' neu 'Mwene Mutapa'). O'i chanolfan yn Simbabwe Fawr, rheolai'r ymerodraeth hon diriogaeth eang sy'n gorwedd heddiw yn y gwledydd presennol Simbabwe (a enwir ar ôl y ddinas) a Mozambique. Roedd trigolion y ddinas yn masnachu ag Arabia ac efallai Asia trwy porthladdoedd fel Sofala, i'r de o ddelta Afon Zambezi.

Codwyd Simbabwe Fawr yn y cyfnod rhwng yr 11eg ganrif a'r 15fed ganrif. Amcangyfrifir fod tua 18,000 o bobl yn byw a gweithio yno ar un adeg. Adeiladau o feini mawr, rhai ohonyn nhw'n anferth, a geir ar wasgar ar safle eang sy'n cynnwys tua 1,800 erw o dir (7 km²). Cafwyd hyd i nifer o ddarnau o grochenwaith o darddiad Tsieineaidd, gwydr o darddiad tramor ac arian bath o'r gwledydd Arabaidd, sy'n awgrymu fod cyfoeth a grym Simbabwe a'i hymerodraeth yn seiledig ar reolaeth ar rwydwaith o lwybrau masnach yn arwain i ardordir Dwyrain Affrica lle byddai masnachwyr Arabaidd yn galw yn eu dhows.

Heddiw mae Simbabwe Fawr yn fath o gysegrfan genedlaethol yn Simbabwe, yn symbol o wareiddiad brodorol y wlad ac Affrica Ddeheuol cyn dyfodiad y trefedigaethwyr Ewropeaidd. Darganfuwyd y cerflun a elwir yn Aderyn Simbabwe, symbol genedlaethol Simbabwe, ar y safle. Mae safle archaeolegol Simbabwe Fawr ar restr UNESCO o Safleoedd Treftadaeth y Byd.

Oriel[golygu]

Dolen allanol[golygu]