Ynys Kangaroo

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Creigiau rhyfeddol anferth ar Ynys Kangaroo

Ynys Kangaroo yw ynys drydedd fwyaf Awstralia, ar ôl Tasmania ac Ynys Melville. Fe'i lleolir yn nhalaith De Awstralia oddi ar arfordir canol de Awstralia. Mae rhannau o'r ynys yn ddeniadol iawn ac yn gartref i fywyd gwyllt gan gynnwys morloi.

Gorwedd yr ynys 112 cilometr i'r de-orllewin o Adelaide wrth y mynediad i Gwlff Saint Vincent. Yn ei phwynt agosaf i'r tir mawr mae'n 13 cilometr (8 milltir) o Benrhyn Jervis, ar drwyn Gorynys Fleurieu yn nhalaith De Awstralia. Hyd yr ynys yw 150 km (93 milltir) a'i lled rhwng 900 m (hanner milltir) a 57 km (35 milltir), gydag arwynebedd o tua 4,405 km² (tua 1,700 milltir sgwar). Mae ganddi arfordir o 540 km ac mae ei phwynt uchaf yn 307 metr (tua 1000 troedfedd) uwch lefel y môr.

Australia globe stub.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Awstralia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.