Ynys Ellef Ringnes

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
LLeoliad Ynys Ellef Ringnes

Ynys yng ngogledd Canada yw Ynys Ellef Ringnes. Mae'n un o Ynysoedd Sverdrup, sy'n ffurfio rhan o Ynysoedd Queen Elizabeth. Er ei bod yn ynys fawr, gydag arwynebedd o 11,295 km2, nid oes poblogaeth barhaol arni.

Yn weinyddol, mae'r ynys yn rhan o diriogaeth Nunavut. Ceir gorsaf dywydd Isachen ar yr arfordir gorllewinol. Enwyd yr ynys ar ôl Ellef Ringnes, un o gefnogwyr ariannol ymgyrch fforio Otto Sverdrup. Hawliwyd yr ynys gan Norwy o 1902 hyd 1930, pan gytunwyd mai eiddo Canada ydoedd.

Ynys Ellef Ringnes