Ynys Devon

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ynys Devon

Ynys yng ngogledd Canada yw Ynys Devon (Saesneg: Devon Island). Gydag arwynebedd o 55 247 km², hi yw chweched ynys Canada o rant maint, yr ail-fwyaf o Ynysoedd Queen Elizabeth a'r ynys fwyaf yn y byd sydd heb boblogaeth; mewn cymhariaeth mae arwynebedd Ynys Môn yn 714 km². Yn weinyddol, mae'r ynys yn rhan o diriogaeth Nunavut.

Mae'r ynys yn fynyddig, a'r unig anifeiliad tir a geir arni yw ychydig o Ychen Mwsg.