Ynys Bylot
Oddi ar Wicipedia
Ynys yng ngogledd Canada yw Ynys Bylot (Saesneg: Bylot Island). Mae ganddi arwynebedd o 11,067 km²; mewn cymhariaeth mae arwynebedd Ynys Môn yn 714 km². Nid oes poblogaeth barhaol arni er bod yr Inuit o Pond Inlet a lleoedd eraill yn ymweld a hi yn gyson.
Yn weinyddol, mae'r ynys yn rhan o diriogaeth Nunavut. Mae'r rhan fwyaf ohoni yn ffurfio Parc Cenedlaethol Sirmilik, sy'n nodedig am adar, yn enwedig Gŵydd yr Eira.