William Williams (Gwilym Cyfeiliog)

Oddi ar Wicipedia
William Williams
FfugenwGwilym Cyfeiliog Edit this on Wikidata
Ganwyd4 Ionawr 1801 Edit this on Wikidata
Winllan, Llanbryn-mair Edit this on Wikidata
Bu farw3 Mehefin 1876 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Bardd ac emynydd Cymraeg oedd William Williams, neu Gwilym Cyfeiliog (4 Ionawr 18013 Mehefin 1876). Roedd yn frodor o ardal Cyfeiliog ym Maldwyn, Powys.

Ganed Gwilym Cyfeiliog ym mhlwyf Llanbryn-mair yn 1801. Agorodd siop yn y pentref lle gwerthai wlân lleol.[1]

Fel bardd, cyfansoddodd y rhan fwyaf o'i gerddi ar y mesurau caeth traddodiadol, yn enwedig yr englyn. Cystadleuodd mewn eisteddfodau mawr a bychain gan ennill enw iddo'i hun fel un o englynwyr gorau'r oes. Fel emynydd, fe'i cofir yn bennaf am yr emyn sy'n dechrau 'Caed trefn i faddau pechod'.[1]

Roedd ei fab, Richard Williams (1835-1906) yn hynafiaethydd a olygodd ail argraffiad y Royal Tribes of Wales gan Philip Yorke.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Caniadau Cyfeiliog (1878). Cyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).