William Westmoreland
Oddi ar Wicipedia
Cadfridog ym Myddin yr Unol Daleithiau oedd William Childs Westmoreland (26 Mawrth 1914 – 18 Gorffennaf 2005) a arweiniodd ymgyrchoedd milwrol Americanaidd yn ystod Rhyfel Fietnam, o 1964 hyd 1968. Mabwysiadodd strategaeth athreuliol yn erbyn Ffrynt Rhyddid Cenedlaethol De Fietnam a Byddin Gogledd Fietnam, gan gynnwys cyrchoedd chwilio a dinistrio yn Ne Fietnam. Gwasanaethodd fel Pennaeth Staff Byddin yr Unol Daleithiau o 1968 hyd 1972.
Llyfryddiaeth [golygu]
- Westmoreland, W. C. A Soldier Reports (Efrog Newydd, Doubleday & Company, 1976).
- Zaffiri, S. Westmoreland: A Biography of General William C. Westmoreland (Efrog Newydd, William Morrow & Company, 1994).