Rhyfela athreuliol

Oddi ar Wicipedia
Criw o filwyr Prydeinig wrth wn peiriant Vickers ar Ffrynt y Gorllewin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Bu dwy ochr y ffrynt hwn yn aros mewn ffosydd ar naill ochr tir neb, heb y gallu i fanwfro. Mabwysiadodd y cadfridogion strategaeth o mynd dros ben y ffosydd ac ymosod yn benben, er bu'r ochr arall yn barod i beri nifer o golledigion ag artileri.

Strategaeth filwrol yw rhyfela athreuliol[1] sydd yn defnyddio athreuliad er mwyn ceisio gorchfygu'r gelyn. Mae'r ochr sy'n defnyddio'r strategaeth hon yn brwydro'r ochr arall yn raddol nes iddynt methu o ganlyniad i golledigion parhaol o luoedd ac adnoddau milwrol. Yn ôl damcaniaethwyr milwrol clasurol megis Sun Tzu mae rhyfela athreuliol yn groes i egwyddorion traddodiadol "celfyddyd y cadfridog", sydd yn pwysleisio manwfro, crynhoi lluoedd, cudd-ymosod, twyll ac ati. Er hyn ceir athreuliad trwy gydol hanes rhyfel, yn aml er mwyn niwtralu gelyn sydd â mantais dactegol.

Enghreifftiau[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 84 [war of attrition].
Eginyn erthygl sydd uchod am ryfel neu wrthdaro milwrol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.