William Jones (hanesydd)

Oddi ar Wicipedia
William Jones
Ganwyd1829 Edit this on Wikidata
Beddgelert Edit this on Wikidata
Bu farw30 Ionawr 1903 Edit this on Wikidata
Llangollen Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethhynafiaethydd, hanesydd, darlithydd Edit this on Wikidata
Am bobl eraill o'r un enw, gweler William Jones.

Hanesydd o Beddgelert oedd William Jones (182930 Ionawr 1903). Ei rhieni oedd Catrin Jones a John Jones.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Prentisiwyd ef i deilwra yng Nghaernarfon ym 1841, ond ar wahan i gyfnod byr ym Mhorthmadog treuliodd ei fywyd mewn busnes yn Llangollen, a bu farw yna ar 30 Ionawr 1903. Rhannodd y wobr gydag Owen Wynne Jones (Glasynys) am draethawd ar hynafiaethau plwyf Beddgelert mewn eisteddfod yno ym 1860, a dyma'r traethawd hwn a deunyddiau eraill a gasglwyd ganddo a oedd yn sail i Bedd Gelert, 1899, gan DE Jenkins. Cyhoeddwyd ei draethawd ar ddaeareg Sir Gaernarfon, yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1862, a enillodd lawer o ganmoliaeth, yn Y Brython, 1862, 75-93, ac ailargraffwyd dan deitl Llawlyfr ar Ddaeareg Sir Gaernarfon, 1863.[1]

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • Y Geninen, 1910
  • Y Cymmrodor, v et seq.
  • D. E. Jenkins, Bedd Gelert, its facts, fairies, and folk-lore (Porthmadog 1899) (preface);
  • The Llangollen Advertiser, 6 Chwefror 1903
  • Cofrestr plwyf Llangollen

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "JONES, WILLIAM ('Bleddyn'; 1829? - 1903), hynafiaethwr, hanesydd lleol, daearegwr, a chasglwr llên gwerin | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-13.