William John Gruffydd (Elerydd)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gweler hefyd William John Gruffydd ac Elerydd.

Llenor o Geredigion yw William John Gruffydd (24 Medi 191621 Ebrill 2011),[1] a adnabyddir yn well fel W. J. Gruffydd neu Elerydd. Fe'i ganed yn Ffair-rhos, Ceredigion. Cymerodd ei enw barddol o enw'r Elerydd, bryniau ei fro. Mae'n adnabyddus am ei gerddi a'i gyfrolau o straeon am helyntion y cymeriadau annwyl 'Tomos a Marged'.

Bu'n weinidog gyda'r Bedyddwyr. Daeth i fri fel bardd yn y 1950au pan enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol ym Eisteddfod 1955 (Pwllheli) a 1960 (Caerdydd). Roedd yn Archdderwydd o 1984 hyd 1987.

Llyfryddiaeth[golygu]

Cerddi:

  • Ffenestri (1961)
  • Cerddi'r Llygad (1973)

Nofelau:

  • Hers a cheffyl (1967)
  • Cyffwrdd â'i Esgyrn (1969)
  • Angel heb Adenydd (1971)

Straeon: Cyfres am helyntion 'Tomos a Marged'

Hunangofiant:

  • Meddylu (1986)
  • O Ffair Rhos i'r Maen Llog (2003)

Arall:

  • Folklore and myth (1964)

Cyfeiriadau[golygu]