William Davies Evans

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
William Davies Evans, tua 1830.

Fforiwr o Gymro oedd y Capten William Davies Evans (1790 - 1872). Yn ogystal â bod yn fforiwr enwog fe'i cofir fel dyfeisydd 'Gambit Evans' mewn gwyddbwyll.

Ganwyd Evans mewn ffermdy o'r enw Musland Farm ym mhlwyf Sant Degwel ger Hwlffordd, Sir Benfro. Aeth i'r môr yn ifanc gan wasanaethu ar longau'r Llynges Brydeinig nes daeth Rhyfeloedd Napoleon i ben yn 1815. Wedyn ymunodd â'r Gwasanaeth Post a dod yn gapten pacedlong yr Auckland a hwyliai rhwng Milffwrdd a Waterford yn Iwerddon. Nid oes neb yn siwr iawn ymhle y dysgodd chwarae gwyddbwyll ond mae'n debyg iddo ddyfeisio'r gambit enwog ar y teithiau unig rhwng Cymru ac Iwerddon.

Yn 1826, cerddodd y Capten Evans i mewn i Ystafelloedd Gwyddbwyll William Lewis yn St. Martin's Lane, Llundain a chynnig chwarae rhai o chwaraewyr gwyddbwyll cryfa'r dydd. Doedd Evans ddim yn adnabyddus fel chwaraewr gwyddbwyll, ond wedi iddo esbonio pam ei fod am eu chwarae llwyddodd i berswadio A. McDonnell i chwarae gêm yn ei erbyn. Roedd McDonnell yn un o'r chwaraewyr gorau gynhyrchodd Iwerddon erioed, ac un o'r cryfaf ym Mhrydain ar y pryd. Gorffennodd y gêm ar yr 20fed symudiad a Chapten Evans yn fuddugol. Dyma ddechrau 'Gambit Evans' sydd wedi cael ei ddefnyddio gan chwaraewyr fel Paul Morphy, Jan Timman, ac yn y 1990au gan Garry Kasparov, yn fwyaf arbennig mewn buddugoliaeth 25 symudiad yn erbyn Viswanathan Anand ym Mhencampwriaeth Goffa Tal yn Riga, 1995.

Ffynonellau[golygu]