William Burges

Oddi ar Wicipedia
William Burges
Ganwyd2 Rhagfyr 1827 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw20 Ebrill 1881 Edit this on Wikidata
The Tower House Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethpensaer, cynllunydd, dylunydd gemwaith, gemydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amSaint Fin Barre's Cathedral, Church of Christ the Consoler, St Michael and All Angels Church, Lowfield Heath Edit this on Wikidata
TadAlfred Burges Edit this on Wikidata

Pensaer a chynllunydd o Sais oedd William Burges (2 Rhagfyr 182720 Ebrill 1881), a gynlluniai yn yr arddull Gothig adfywiedig. Mae'n fwyaf adnabyddus am adfer Castell Caerdydd a Chastell Coch ar gyfer ei noddwr, Ardalydd Bute.[1]

Cafodd ei eni yn Llundain, yn fab i'r peiriannydd sifil cyfoethog, Alfred Burges. Cafodd ei addysg yn yr Ysgol Coleg y Brenin, Llundain. Ffrind ysgol Dante Gabriel Rossetti oedd ef. Bu'n gweithio i'r pensaer Edward Blore yn yr Abaty San Steffan. Wedyn, bu'n gweithio i Matthew Digby Wyatt.[2]

Ni phriododd erioed. Bu farw yn 53 oed yn y "Gwely Coch" yn ei gartref, y "Tower House", Kensington.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Prout, David (1996). Burges, William. Grove Dictionary of Art. Gwasg Prifysgol Rhydychen. Adalwyd ar 17 Ionawr 2014.
  2. Smith, Helen (1984). Decorative painting in the domestic interior in England and Wales, c. 1850–1890 (yn Saesneg). Garland Pub. ISBN 978-0-8240-5986-6.
Eginyn erthygl sydd uchod am bensaernïaeth neu adeiladu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.