Adfywiad Gothig

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Rhai adeiladau Neo-Gothig: uwchben - Palas San Steffan, Llundain; chwith - Cathedral of Learning, Pittsburgh; de - Sint-Petrus-en-Pauluskerk, Ostend.

Term am arddull mewn pensaernïaeth yn ystod y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif yw'r Adyfwiad Gothig neu Neo-Gothig.

O'r Dadeni Dysg ymlaen ystyrrwyd pensaernïaeth Gothig yn farbaraidd (yn wir, pan fathwyd y term "Gothig" tua'r un adeg, roedd yn derm dirmygus yn cyfeirio at y Gothiaid) a daeth adeiladau yn yr arddull clasurol yn fwyfwy ffasiynol. Dim ond yn y 19eg ganrif, pan ddatblygodd delwedd ramantaidd o'r Oesoedd Canol, y bu adfywiad o'r arddull, a ddechreuodd ym Mhrydain. Yn dilyn effeithiau gwaethaf y Chwyldro Diwydiannol roedd llawer o feddylwyr y cyfnod am ddychwelyd at ethos gwaith a Christnogaeth yr Oesoedd Canol, a mynegwyd hyn drwy bensaernïaeth yr oes.

Yng Nghymru, roedd gwaith John Prichard ar eglwysi yn ne-ddwyrain Cymru yn esiampl o'r arddull yma.

Parhaodd defnydd o'r arddull Gothig ar gyfer rhai eglwysi a phrifysgolion yn yr 20fed ganrif.

Prif fynedfa'r Hen Goleg, Aberystwyth, gan John Pollard Seddon
Museum template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am bensaernïaeth neu adeiladu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill