Wicipedia:Gweinyddwyr

Oddi ar Wicipedia

Defnyddwyr sydd â galluoedd arbennig ganddynt yw'r gweinyddwyr, sy'n gallu perfformio tasgau cynnal a chadw ar Wicipedia. Nid y gweinyddwyr sydd yn penderfynu ar y tasgau, heblaw ei bod yn dasg amlwg neu angen ei gweithredu yn ddiymdroi (e.e., dileu lluniau sydd wedi eu huwchlwytho heb ganiatâd perchennog yr hawlfraint). Yn hytrach â hyn, gweithredu penderfyniadau cymuned Wicipedia yw eu swyddogaeth. Maent yn ddefnyddwyr eu hunain, sydd yn ymgymryd â'r gwaith gweinyddol ychwanegol yn ddi-dâl. Eu prif ddyletswyddau yw diogelu a dileu tudalennau, golygu tudalennau sydd wedi eu diogelu, rhwystro defnyddwyr, a dadwneud y gweithredoedd hyn i gyd hefyd.

Creu gweinyddwyr

Biwrocratiaid yw'r rhai sydd â phwerau uwch fyth ganddynt (gweler Wikipedia), a'r rhain sydd yn arfogi gweinyddwr. Os ydych am gynnig chi eich hunan neu ddefnyddiwr arall i fod yn weinyddwr gallwch wneud hynny ar y caffi. Mae'n arferol disgwyl i gael eilydd neu ddau o blith y defnyddwyr cyn i fiwrocrat greu gweinyddwr. Mae'n rhaid i ddefnyddiwr gydsynio i fod yn weinyddwr cyn cael ei wneud yn weinyddwr. Nid oes terfyn ar gyfnod penodiad fel gweinyddwr ond fe all pwerau gweinyddwr gael eu tynnu oddi arno. Gall hyn ddigwydd ar gais y gweinyddwr ei hunan. Mewn achosion lle y camddefnyddiwyd pwerau gweinyddwr gall stiward ddileu ei statws gweinyddwr yn unol â phenderfyniad gan Jimbo Wales neu'r pwyllgor cyflafareddu (gweler Wikipedia am eglurhad pellach).

Galluoedd gweinyddwyr

Rhain yw'r prif dasgau y gall gweinyddwyr eu gwneud:

  • Golygu tudalennau sydd wedi eu diogelu. Ymhlith y rhain mae'r:
    • Hafan
    • Wicipedia:GNU FDL
    • Negeseuon - rhain sy'n rhoi testun y rhyngwyneb (y tabiau, y botymau, testun y tudalennau arbennig ag ati. Fe'u cedwir yn y parth Mediawiki.

Os ydych am newid rhywbeth ar dudalen sydd wedi ei ddiogelu eglurwch y newid ar y dudalen sgwrs a rhowch y nodyn {{Atsylwgweinyddwr}} ar y dudalen sgwrs. Os ydych am newid rhywbeth yn y rhyngwyneb heb wybod teitl y neges i'w newid gallwch godi'r mater ar y Caffi neu Wicipedia:Cymorth iaith, gan nodi'r neges wreiddiol a'r dudalen y daethoch ar draws y neges arni. Oherwydd bod newid y ffeiliau pwysicaf megis Monobook.css yn gallu gwneud niwed i'r rhyngwyneb neu i'r wefan gyfan digon posib y bydd yn rhaid galw am gymorth datblygwyr y meddalwedd ar Mediawiki er mwyn diwygio rhai ffeiliau.

  • Diogelu a dad-ddiogelu tudalennau. Diben hwn yw diogelu rhag fandaliaeth neu niwed damweiniol i dudalennau hanfodol, e.e. yr Hafan. Anaml iawn y bydd erthyglau yn cael eu diogelu. Gwneir hynny er mwyn atal fandaliaeth remp neu er mwyn creu ysbaid o lonydd os oes anghydfod wedi codi a hynny'n arwain at newidiadau di-ddiwedd ar ryw dudalen. Os ydych am i dudalen gael ei ddiogelu neu ei ddad-ddiogelu codwch y mater ar Wicipedia:Y Caffi.
  • Dileu ac adfer tudalennau. Os ydych am gynnig y dylai tudalen gael ei dileu rhowch y nodyn {{Tudalen amheus}} ar y dudalen ac egluro'r rheswm dros eich cynnig ar y dudalen Wicipedia:Tudalennau amheus. Fe gaiff y cynnig ei drafod yno ac os ymddengys cydsynied y dylid ei dileu yna fe wnaiff gweinyddwr hynny.
  • Blocio, sef atal defnyddwyr rhag golygu tudalennau o ryw gyfrif neu gyfeiriad IP arbennig. Yn yr un modd gall gweinyddwr dad-flocio defnyddiwr.

Gofyn am gymorth gweinyddwr

Os oes angen cymorth gweinyddwr arnoch, cewch naill ai -

  • gysylltu'n unigol,
  • gofyn yn y Caffi, neu
  • ychwanegu nodyn pwrpasol at dudalen sgwrs i dynnu sylw'r gweinyddwyr ati, sef y nodyn Atsylwgweinyddwr.

Gan fod criw'r Wicipedwyr Wicipedia Cymraeg yn fach o'i gymharu â Wikipedia Saesneg mae'r ymateb i geisiadau yn gallu bod yn arafach o lawer nag yw hi ar Wikipedia. Mae weithiau'n gallu bod yn anodd dirnad ystyr diffyg ymateb i gynnig – ai diffyg cefnogaeth sydd wrth ei wraidd ynteu dim gwrthwynebiad i'r cynnig, neu ddiffyg amser i ystyried pob trafodaeth ac ymateb iddynt. Mae tuedd wedi datblygu i gymryd bod cynnig yn dderbyniol os na fynegir unrhyw wrthwynebiad iddo. Os na chewch ymateb i gais am help gweinyddwr peidiwch â digalonni – rhowch nodyn i'w hatgoffa ar y Caffi ar ôl rhai wythnosau.

Ceir rhagor o fanylion am weinyddwyr ar y Wikipedia Saesneg.

Arolygu a thynnu gweinyddwyr

Os yw gweinyddwr yn camddefnyddio ei bwerau, gall dynnu'r pwerau hyn. Y bobl sy'n gallu tynnu statws gweinyddwr ydy Jimmy Wales, stiwardiaid, neu ar gais y Pwyllgor Cyflafareddu. Yn ôl eu disgresiwn, efallai y bydd cosbau llai hefyd yn cael eu hasesu yn erbyn gweinyddwyr problemus, gan gynnwys cyfyngu ar eu defnydd o bwerau penodol neu eu rhoi ar brawf gweinyddol. Mae'r gallu technegol i dynnu statws gweinyddwr yn gorwedd gyda'r stiwardiaid, biwrocrats a Jimmy Wales.

Bu nifer o weithdrefnau a awgrymwyd ar gyfer tynnu statws gweinyddwr sy'n atebol i'r gymuned, ond nid oes yr un ohonynt wedi cyrraedd consensws. Bydd rhai gweinyddwyr yn sefyll am ail-gymeradwyaeth yn ôl eu ceisiadau eu hunain o dan amgylchiadau penodol; gweler #Ail-gymeradwyaeth wirfoddol. Gall defnyddwyr ddefnyddio'r proses datrys anghydfod i ofyn am sylwadau ar addasrwydd gweinyddwr.

Removal of rights does not currently show up in the usual user logs. Use {{Userrights|username}} for full links to user rights information and full logs, including the stewards' global logs on meta as well, or Special:ListUsers to verify a users' current rights. See: Bugzilla:4055.

Diddymu statws Gweinyddwr oherwydd nad yw wedi cyfrannu am 12 mis

Os nad yw Gweinyddwr wedi cyfrannu mewn unrhyw ffordd i Wici-cy yna gellir diddymu ei statws fel Gweinyddwr. Ni ddylid ystyried y cam hwn yn gam di-droi'n-ôl. Dylid cysylltu a'r Gweinyddwr ar ei ddalen Defnyddiwr (sgwrs) ac ar ei ebost - os ydy hynny'n bosib. Os nad ydyw wedi ymateb ar ôl mis, dylid ail-wneud y ddau beth yma. Os ydyw yn dal heb ymateb ymhen wythnos yna rhoddir hawl i Fiwrocrat i ddiddymu statws - ac felly hawliau'r Gweinyddwr. Dylid nodi yn log hawliau'r defnyddiwr ac ar dudalen sgwrs y defnyddiwr pam y gwnaed y penderfyniad ac mai gweithred dros dro ydyw ac y gellir ei ail-wneud yn Weinyddwr. Os yw'r Gweinyddwr yn ail-ddechrau cyfrannu i Wici-cym, yna rhoddir hawl i Fiwrocrat ail-alluogi'r Gweinyddwr, heb sgwrs pellach ar y mater, cyn belled y gwyddom gan-y-cant eidentiti'r Defnyddiwr.

Yr Arbitration Committee

Fel mae pethau heddiw yn 2023, yr Arbitration Committee sydd a'r hawl i ddileu statws Gweinyddwyr ar cywici. Rydym, fel cymuned, wedi trafod a chytunwyd yn unfrydol yn y Caffi, y dylem gael yr hawl i wneud hyn ein hunain. Nhw hefyd sy'n delio gyda chyhuddiadau difrifol.

Rhestr Gweinyddwyr

Mae'r rhestr ddiweddaraf ar waelod yr adran.

Gweinyddwyr Wicipedia hyd at 14/02/2012

Gweinyddwyr Wicipedia o 15/02/2012 hyd at Mawrth 2018

Gweinyddwyr Wicipedia o Fawrth 2018 hyd at y presennol

Defnyddiwr:Adda'r Yw
Defnyddiwr:AlwynapHuw
Defnyddiwr:Dafyddt
Defnyddiwr:Deb
Defnyddiwr:Dyfrig
Defnyddiwr:Lloffiwr
Defnyddiwr:Llygadebrill
Defnyddiwr:Llywelyn2000
Defnyddiwr:Pwyll
Defnyddiwr:Rhyswynne
Defnyddiwr:Thaf
Defnyddiwr:Xxglennxx
Defnyddiwr:Craigysgafn