Defnyddiwr:Ben Bore

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Wicipedia:Babel
Cymraeg yw mamiaith y defnyddiwr 'ma.
This user is a native speaker of English.


Firefox Mae'r defnyddiwr yma'n cyfrannu drwy ddefnyddio Firefox.

Chwiliwch ieithoedd defnyddwyr

Rhys ydw i, dwi'n Gymro Cymraeg o bentref o'r enw Prion (map) yn Nyffryn Clwyd a dwi'n cadw blog Cymraeg o'r enw Gwenu dan Fysiau. Dwi'n byw yng Nghaerdydd ar hyn o bryd.

Dwi'n cefnogi Clwb Pêl-droed Wrecsam ac yn sylfaenydd a threfnydd (o ryw fath) grŵp cefnogwyr Cochion Caerdydd, fy hoff gêm yw Scrabble a fy hoff fand yw Datblygu.

Dwi hefyd yn cyfrannu at y Wikipedia Saesneg


Cynnwys

[golygu] Fy erthyglau a chyfraniadau

Dwi heb ysgrifennu llawer o erthyglau eto ar gyfer Wicipedia eto, dim ond addasu ac ychwanegu at rai pobl eraill. Dyma rai dwi wedi eu dechrau:

[golygu] Ar ganol

[golygu] Dwi eisiau tacluso/ehangu

[golygu] Diddordeb mewn ychwanegu erthyglau am:

Pêl-droed, Y We, Ì

[golygu] Cymru/Cymry/Y Gymraeg
  • Siroedd a Dinasoedd Cymru
  • Hanes Cymru os dwi'n teimlo'n ddewr
  • Rhywiogaethau Cymru (flaura a fauna): Lili'r Wyddfa, Afal Enlli, Gwartheg Duon, White Park Cattle]], Defaid Llyn
  • Darlith Flynyddol BBC Cymru
  • Llaethdai Llundain (Yn ól rhageln Perthyn Oliver Corner, Mai/Mefefin 2011, yn y 1930, roedd 1,700 llaethdy yn Llundain, 1,000 yn poerthyn i Gymry. Rhieni Dai Llanilar yn berchen rhai!)
  • Eisteddfod Genedlaethol: Creu gwybodlen, stats (ymwelwyr, cost, maint safle, arian godwyd yn lleol) cystadlaethau/gwaobrau, anghydfod/scandala, hanes Maes B
[golygu] Termau
  • Cuts cig
  • Offer (hen a newydd) amaethyddol ac o'r diwydiant adeiladau
  • Daeareg

[golygu] Cysylltu â mi

Os ydych eisiau anfon neges ataf neu dynnu fy sylw at unrhyw fater, postiwch ar fy nhudalen Sgwrs.


[golygu] Dolenni defnyddiol

[golygu] Delweddau

[golygu] Arddull

[golygu] Iaith

[golygu] Tacluso'r Wicipedia

[golygu] Cymraeg i Oedolion

(Dechrau ar hel wybodaeth - croeso i unrhyw un ychwanegu/cywiro)

[golygu] Gwahanol Gyrsiau

[golygu] Lefelau

[golygu] Datblygiad

  • Yn y pedwardegau a'r pumpdegau y dechreuwyd dysgu Cymraeg i oedolin yn benodol; cyn hynny, proses o gymhathu naturiol oedd yn peri bod oedolyn yn dysgu Cymraeg o gwbl.
  • Iaith a ddysgir yn y dosbarth yn rhy ffurfiol ac annaturiol
    • (Dulliau Dysgu a'r Dosbath Iaith, Emyr Davies- Cyflwyno'r Gymraeg Gol. Christine Jones. 2000 Gomer)
  • Tua chanol y 60au daeth rhyw ddeffroad i fyd y Gymraeg fel ail iaith yn sgîl nifer o ddigwyddiadau megis, penodi Jac L Wiliams i Gadair Addysg Aberystwyth, agor Uned Iaith Genedlaethol yn Nhrefforest o dan Cyd-bwyllgor Addysg Gymreig, fel yr oedd adeg honno, a phenderfyniad hen Gynor Sir Forgannwg i sefydlu cwrs blwyddyn llawn amser yng Ngholeg Hyfforddi'r Barri i ddysgu'r iaith i rai athrawon cynradd yr awdurdod.
  • Yn dilyn ymgyrch marchnata slic gan sefydliad newydd o'r enw IWA, denwyd nifer i ddysgu Cymraeg. Yn ôl arolwg Adran Addysg Aber, roedd 388 dosbarth a 5,189 yn dysgu yng Nghymru a 50/570 tu allan i Gymru
  • 1974, Prifysgol Cymru yn cyflogi Chris Rees yn Swyddog Ymchwil a Datblygu er mwyn
      • Dysgu Myfyrwyr i'r safon uchaf
      • Darparu a dilysu Diploma mewn Cymraeg (ail iaith)
      • Hyfforddi tiwtoriaid
      • Gwaith ymchwil anghenrheidiol
      • Trefnu cyrsiau preswyl i fyfyrwyr a thiwtoriaid
    • (Datblygiad yr Wlpan, Chris Rees- Cyflwyno'r Gymraeg Gol. Christine Jones. 2000 Gomer)

[golygu] Wlpan

(i'w ychwnaegu at y prif erthygl)

  • Yn 1972, cynhaliwyd cynhadledd yng Nghaerdydd (dan nawdd cangen UCAC lleol), ble siaradodd Mrs Shoshana Eytan (gweithiar yn swyddfa'r Asiantaith Iddewig yn Llundain ar y pryd) a oedd wedi bod yn diwtor yn Ulpan Etzion, yr 'ulpan gwreiddiol. Cyhoeddwyd adroddiad arno yn Yr Athro yn Ionawr 1972.
  • Cwrs 'Wlpan cyntaf Cymru' yn dechrau ar nos Lun 24 Medi 1973 yn Canolfan yr Urdd, Heol Conwy Caredydd gyda 11 disgybl - chwech yn Gymry di-Gymraeg a phump yn Saeson. Cwrs 100 awr 2 awr y noson, pum nosn yr wythnos. Pan orffennodd y cwrs ar y 7 Rhagfyr, dim ond un aelod oedd wedi gadael ac roedd hwnnw wedi gadael Caerdydd oherwydd gwaith.
    • (Datblygiad yr Wlpan, Chris Rees- Cyflwyno'r Gymraeg Gol. Christine Jones. 2000 Gomer)

[golygu] Heddiw

Erbyn hyn mae'r iaith a gyflwynir wedi "llafareiddio". (Dulliau Dysgu Ail Iaith, Ioan Talfarn. 2001 Popeth Cymraeg Cyf.)

[golygu] Canolfanau

Ad-drefn gan y Cynulliad yn creu chwech Canolfan ar draws Cymru


[golygu] Cyflwyniad 'Hacio'r Iaith'

Dw i'n un o gyd-drefnwyr digwyddiad o'r enw Hacio'r Iaith a fydd yn cymryd lle yn Aberystwydd ar y 30ain o Ionawr 2010. Mae'r diwrnod yn mynd i fod yn gyfuniad o BarCamp a Hack Day. Thema'r dydd yw'r Iaith Gymraeg, Technoleg a'r we. Oherwydd natur anffurfiol y dydd mae croeso i bawb sy'n mynychu i wneud cyflwyniad, a dw i'n ystyried gwneud un ar y Wicipedia, o dan teitl fel Wicipedia: Sut allwch chi gyfrannu? (neu rhywbeth felly, efallai gyda tinc llai desperate!). Petai rhwyun arall yma eisiau ymuno â fi i wneud cyflwyniad, neu gwell fyth ei wneud yn fy lle i, achos mae syniadau gyda fi am gyflwyniadau eraill, rhowch wybod i mi. Yn y cyfamser, dw i am roi bach o syniadau yma a beth fyddcynnwys fy nghyflwyniad. Mae croeso i unrhyw un olygu'r adran hon a chynnig beth i'w gynnwys.

[golygu] Ystagegau

  • Nodi twf y wicipedia
  • Nifer cyfranwyr/Gweinyddwyr + faint sy'n wir yn cyfrannu a pha mor aml
  • Cymharu ei faint gyda eithoedd tebyg (Basgeg, Llydaweg ayyb)

[golygu] Defnyddio'r wefan

  • Sut i olygu
  • Sut i chwilio

[golygu] Sut gyfrannu

  • Creu/ehangu erthyglau
  • Gwirio iaith
  • Cyfieithu tudalenau cyfarwyddiadau
  • Gwirio ffeithiau/ffynhonellau
  • Gwaith tŷ (tacluso arddull, categoriau cywir)
  • Tynnu ac uwchlwyhto luniau (TRWYDDED AGORED)
  • Creu/Cymreigio delweddau (mapiau, siartiau, deiagramau, graffiau)
  • Plismona

[golygu] Cydweithrediad

  • Delweddau gan y Llyfrgell Genedlaethol

[golygu] Potensial Wicipedia a beth hoffwn i weld...

  • Man casglu data/ystadegau (etholiadau lleol, ennillwyr eisteddfodau)
  • Prosiectau (fel sydd ar y Wiki Saesneg)
  • Capeli (tablau yn dangos delwedd, dyddiad codi/cau, lleolaid, seddi)
  • Amgeuddfeydd (delweddau holl adeiladu Sain Ffagan sy'n fwy cynhwysfawr na'r wefan swyddogol)
  • Rhywiogaethau Cymru (planhigion, anifeiliaid)
  • Eisteddfodau Cenedlaethol (cost cynnal, ymwelwyr)

[golygu] Problemau

  • Fandaliaeth (dim llawer hyd yma)
  • Hunan gyhoeddusrwydd gan unigolion
  • GoogleTranslate
  • "Comiwnyddiaeth" (jôc!)
Enw Cwrs! Math! Pryd! Ardal! Pwy!
Dull Dwyieithog Gramadegol 1960'au Dr Charles Bronson, Prifysgol Aberystwyth
Cymraeg i Oedolion Clyw weledol (Audio Visual) 1966 Bobi Jones
Cwrs Carlam Cymraeg Gogledd Ddwyrain Cymru Dan Lyn James, Athrofa Gogledd Ddwyrain Cymru
Croeso Christine Teledu 1967 TWW
Croesi'r bont Teledu BBC Cymru
Cloncian Tybiannol Ffwythianol 1980'au Gogledd Ddwyrain Cymru
Wlpan Fersiynnau lleol Chris Rees
Cymraeg Byw Gogledd Ddwyrain Cymru Sain y Gororau
Sounds Welsh Gogledd Ddwyrain Cymru Cymdeithas Addusgwyr y Gweithwyr
Now You're Talking ACEN
Cwrs Cymraeg Llafar Gogledd Ddwyrain Cymru Canolfan Iaith Clwyd
Dosbarth Nos Fersiynnau lleol CBAC (?)
Talk About Welsh(?) BBC Cymru
Cwrs Mynediad Sgwrsio cyffredin + CD De/Gogledd CBAC (2000-)
Cwrs Sylfaen Sgwrsio cyffredin + CD De/Gogledd CBAC (2000-)
Cwrs Canolradd (tua TGAU) Sgwrsio cyffredin + CD De/Gogledd CBAC (2000-)
Offer personol

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill