Veneti

Oddi ar Wicipedia
Gweler hefyd Veneti (gwahaniaethu).
Llwythau Celtaidd Gâl yn y ganrif 1af CC

Llwyth Celtaidd yn byw yn ne-orllewin Armorica, Llydaw gyfoes oedd y Veneti.

Roedd y Veneti yn byw o amgylch bae Morbihan bay, gan adeiladu caerau ar benrhynau oedd yn ynysoedd ar lanw uchaf. Crybwylla Ptolemi eu prifddinas fel Durioritum, Gwened (Vannes) heddiw. Dywedir eu bod yn adeiladu llongau o faint sylweddol i dderw, yn cael eu gyrru gan hwyliau o ledr.

Pan gyrhaeddodd y Rhufeiniaid dan Iŵl Cesar yn 57 CC, gorfodwyd y Veneti i ymostwng iddo a rhoi gwystlon. Yn 56 CC, roedd rhai o swyddogion Cesar yn chwilio am fwyd i'r fyddin yn nhiriogaethau'r Veneti, a chymerodd y Veneti hwy yn garcharorion, gan feddwl medru eu cyfnewid am y gwystlon.

Ymosododd Cesar arnynt, ond fel yr oedd yn ymosod ar un gaer, defnyddai y Veneti eu llongau i symud i gaer arall, Adeiladodd Cesar longau, ond roedd llongau'r Veneti yn llawer mwy, gydag ochrau uwch, felly ni chafodd lawer o lwyddiant ar y cychwyn. Yn y diwedd, gorchfygwyd llynges y Veneti gan legad Cesar, Decimus Junius Brutus Albinus, a ddefnyddiodd grymanau ar bolion hir i dorri'r rhaffau oedd yn dal hwyliau llongau'r Veneti. Heb eu llynges, gorchfygwyd hwy yn weddol fuan. Dienyddiodd Cesar yr arweinwyr, a gwerthu'r gweddill fel caethweision. Ceir yr hanes yn De Bello Gallico (liber 3).

Cedwir enw'r llwyth yn enw dinas Gwened (Ffrangeg: Vannes), lle codwyd dinas Rufeinig Durioritum.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]