Utrecht (dinas)
Oddi ar Wicipedia
Utrecht yw prifddinas talaith Utrecht yn yr Iseldiroedd a'r bedwaredd o ddinasoedd yr Iseldiroedd o ran poblogaeth. Mae'n un o'r dinasoedd sy'n ffurfio cytref y Randstad. Roedd y boblogaeth yn 288,401 yn 2007.
Prifysgol Utrecht yw'r mwyaf yn yr Iseldiroedd, ac yma mae pencadlys Rheilffyrdd yr Iseldiroedd. Utrecht hefyd yw lleoliad archesgob Catholig yr Iseldiroedd. Mae'n un o ddinasoedd hynaf y wlad; fe'i sefydlwyd gan y Rhufeiniaid tua 50 OC pan adeiladwyd castellum ar lan Afon Rhein yn ystod teyrnasiad yr ymerawdwr Claudius.
[golygu] Adeiladau
- Eglwys Gadeiriol
- Gorsaf Utrecht Centraal
- Prifysgol Utrecht
- Tŷ Rietveld Schröder
[golygu] Pobl o Utrecht
- Pab Adrian VI (1459-1523)
- Dick Bruna (g. 1927), arlunydd
- Jacob van Utrecht (c. 1479-1525), arlunydd
- Johan Wagenaar (1862-1941), cyfansoddwr