Cytref

Oddi ar Wicipedia

Ardal drefol sy'n cynnwys nifer o ddinasoedd, trefi neu bentrefi sydd wedi tyfu at ei gilydd i greu un ardal drefol ddi-dorr yw cytref. Mae ardaloedd y Ruhr yn yr Almaen, y Randstad yn yr Iseldiroedd neu Manceinion Fwy yn Lloegr yn enghreifftiau da. Cyfeirir weithiau at Gytref De Cymru i ddynodi ardal sy'n ymestyn o Gasnewydd i Abertawe gan gynnwys cymoedd de Cymru, er nad yw'r ardaloedd trefol hyn wedi ymdoddi i'w gilydd i'r un raddfa ag y mae'r trefi yn yr enghreifftiau uchod.

Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.