Usher

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Usher yn ServiceNation Summit, Dinas Efrog Newydd

Cerddor, dawnsiwr ac actor Americanaidd ydy Usher Terrence "Terry" Raymond IV (ganed 14 Hydref, 1978). Mae'n perfformio o dan yr enw llwyfan Usher. Daeth yn adnabyddus ar ddiwedd y 1990au pan ryddhaodd ei ail albwm My Way, a arweiniodd at ei rif un cyntaf ar siart y Billboard Hot 100, "Nice and Slow". Roedd ei albwm nesaf 8701 (2001) yn cynnwys y caneuon "U Remind Me" ac "U Got It Bad" a gyrhaeddodd rif un ar siart y Billboard Hot 100. Mae'r ddau albwm wedi gwerthu dros 8 miliwn o gopïau yn fydeang, gan wneud Usher yn un o'r artistiaid R&B sydd wedi gwerthu fwyaf yn ystod y 1990au.[1]

Cyfeiriadau[golygu]

  1.  Usher. Usher Biography. People.com.