Urdd Oren

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner yr Urdd Oren

Sefydliad Protestannaidd, yn bennaf yng Ngogledd Iwerddon, yw'r Urdd Oren (Saesneg: Orange Order). Nodweddir y sefydliad gan ei wrthwynebiad i'r Eglwys Gatholig. Rhaid i unrhyw aelod fod yn Brotestant, ac fel rheol rhaid bod o deulu Protestannaidd hefyd, er y gellir gwneud eithriadau.[1][2][3]

Ceir gwreiddiau'r sefydliad yn rhan olaf y 18fed ganrif, a'r ymladd yn erbyn yr Amddiffynwyr, oedd yn Gatholigion. Fe'i sefydlwyd yn Loughgall, Swydd Armagh, ym 1795. Daw'r enw o deitl Tywysog Orange, teitl gwreiddiol Wiliam III & II, brenin Lloegr a'r Alban. Daeth ef yn arwr Protestaniaid Gogledd Iwerddon yn dilyn ei fuddugoliaeth ym Mrwydr y Boyne. Er nad oes cysylltiad uniongyrchol a'r lliw oren, daeth y lliw yma i gynrychioli unoliaethwyr Gogledd Iwerddon.

Ymladdodd llawer o aelodau'r Urdd ar ochr y llywodraeth yng ngwrthryfel 1798. Erbyn diwedd y 19eg ganrif, roedd ei aelodaeth wedi lleihau yn fawr, ond adfywiodd pan gododd gwrthwynebiad i annibynniaeth Iwerddon ar ran y Protestaniaid. Daeth yn elfen bwysig yng Ngogledd Iwerddon wedi rhannu'r ynys. Cynhelir gorymdeithiau blynyddol ar y Deuddegfed Gogoneddus, sy'n aml yn achosi anghydfod.

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Tonge, Johnathan. Northern Ireland. Polity, 2006. Tudalennau 24, 171, 172, 173.
  2. David George Boyce, Robert Eccleshall, Vincent Geoghegan. Political Thought In Ireland Since The Seventeenth Century. Routledge, 1993. Tudalen 203.
  3. Mitchel, Patrick. Evangelicalism and national identity in Ulster, 1921–1998. Oxford University Press, 2003. Tudalen 136.