Gwrthryfel Gwyddelig 1798

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Theobald Wolfe Tone - Arweinydd Cymdeithas y Gwyddelod Unedig.

Gwrthryfel 1798 y gelwir y gwrthryfel hwn gan y Gwyddelod fynychaf, neu yn Gaeleg: Éirí Amach 1798). Fe barodd am ychydig fisoedd yn erbyn Awdurdod Llywodraeth Lloegr yn Iwerddon. Y grŵp a gododd ar ei draed er mwyn herio'r drefn Seisnig oedd Cymdeithas y Gwyddelod Unedig (Saesneg: Society of United Irishmen), grŵp oedd yn dilyn arweiniad dulliau chwyldro America a Ffrainc.

Yn dilyn annogaeth gan arweinydd Cymdeithas y Gwyddelod Unedig, casglodd llynges Ffrengig, a anfonwyd gan y Chwyldroadwyr yn Ffrainc, gerllaw Bae Bantry yn Rhagfyr 1796 yn barod i'w cynhorthwyo i hel y Saeson o'u gwlad. Ond oherwydd stormydd geirwon, trodd y llynges ar eu sodlau ac adref i Ffrainc. Dywedodd Woolf Tone, "England has had its luckiest escape since the Armada."

Canlyniad hyn oll oedd i Loegr ffyrnigo a chlampio i lawr ar y Gwyddelod, yn enwedig yn ardal Ulster, gan losgi tai, defnyddio artaith a llofruddio yn ddi-baid. Yn 1798, roedd dyddiad dechrau'r gwrthryfel wedi ei bennu fel 23 Mai, ond ar 18 Mai rhoddodd gŵr o'r enw Magan wybod i'r awdurdodau ymhle yr oedd Arglwydd Edward FitzGerald, y prif arweinydd oedd yn dal yn rhydd yn Iwerddon. Roedd Fitzgerald mewn tŷ yn Nulyn ac yn ei wely yn dioddef gan dwymyn. Clwyfwyd ef wrth geisio dianc, a bu farw o'i glwyfau yng ngharchar Newgate, Dulyn ar 4 Mehefin. Canlyniad hyn oedd i'r gwrthryfel fynd ymlaen heb arweiniad effeithiol.

Baner Republic of IrelandEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.