Tro clip gwallt

Oddi ar Wicipedia
Ffordd Ffrengig y D2204 Route du Col de Braus.

Tro neu gornel eithafol ar y ffordd fawr ydy tro clip gwallt neu gornel cara esgid (Saesneg: hairpin bend). Bathwyd y gair ar y rhaglen 'Seiclo: La Tour de France' ar S4C yng Ngorffennaf 2014. Trosiad sydd yma, mewn gwirionedd, sy'n mynegi'r tebygrwydd rhwng rhai corneli siap pedol (bron i 180 gradd) gyda siap clip gwallt modern.

Clip gwallt

Cânt eu creu ar allt, fel arfer er mwyn caniatâu i'r beic neu'r gerbyd ddringo'r allt ar ogwydd mwy hamddenol na phe baent yn mynd yn uniongyrchol o A i B ar ogwydd neu ongl eithriadol. Mae hyn hefyd yn gwneud y daith yn saffach.

Rhai corneli clip gwallt yn Ewrop[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]