Tooji Keshtkar
Oddi ar Wicipedia
| Tooji Keshtkar | |
|---|---|
| Gwybodaeth gefndirol | |
| Enw genedigol | Touraj Keshtkar |
| Enw arall | Tooji |
| Ganwyd |
Mai 26, 1987 |
| Man geni | Shiraz, Iran |
| Cerddoriaeth | Pop |
| Galwedigaeth(au) | Canwr |
| Offeryn(au) cerdd | Llais |
| Blynyddoedd | 2008–presennol |
Canwr Norwyaidd, a aned yn Iran (Mai 26, 1987), yw Tooji Keshtkar, sy'n fwy adnabyddus fel Tooji. Bydd Tooji yn cynrychioli Norwy yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision 2012.[1]
Gyrfa [golygu]
Ganed Tooji yn Shiraz, Iran a symudodd ef i Norwy pan oedd yn un oed.[2] Dechreuodd yrfa mewn modelu pan oedd yn 16 oed a gweithiodd fel cyflwynydd ar MTV Norway yn cyflwyno "Super Saturday" a "Tooji's Top 10".[3]
Rhyddhaodd Tooji ei gân gyntaf, "Swan Song", yn 2008.
Enillodd ef y gystadleuaeth Melodi Grand Prix 2012 yn Norwy ar 11 Chwefror 2012 a bydd yn cynrychioli'r wlad yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision 2012 gyda'i gân "Stay".[4]