Tony Lewis
Oddi ar Wicipedia
Cyn-chwaraewr criced Cymreig ydy Anthony Robert (Tony) Lewis CBE (ganed 6 Gorffennaf, 1938 yn Abertawe). Aeth ymlaen i fod yn wyneb cyfarwydd ym myd darlledu criced y BBC yn ystod y 1990au a bu'n Lywyddd Clwb Criced Marylebone. Mynychodd Goleg Crist, Caergrawnt a chwaraeodd i Brifysgol Caergrawnt. Chwaraeodd i Clwb Criced Morgannwg ac i Loegr mewn naw Gêm Brawf.