Tobruk
Oddi ar Wicipedia
Dinas a phorthladd ar arfordir y Môr Canoldir yng ngogledd-ddwyrain Libya yw Tobruk, ar y llain arfordirol rhwng y môr hwnnw a Diffeithwch Libya. Yn yr Ail Ryfel Byd gwelwyd ymladd ffyrnig yno rhwng yr Afrika Korps Almaenig a byddin y cadfridog Montgomery. Newidiodd ddwylo bum gwaith cyn syrthio i Montgomery yn 1942.

