Sgwrs:Tobruk

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

"Tobruch"[golygu cod]

Pam gafodd hyn ei symud o'r ffurf adnabyddus 'Tobruk' i ffurf sy ddim yn cael ei defnyddio gan unrhyw un o'r wicis eraill, hyd y gwelaf i? Symudwyd sawl tudalen arall gan yr un cyfranwr hefyd (gweler categori:Egin Libia), a hynny heb unrhyw esboniad. 79.75.202.136 00:57, 25 Mehefin 2014 (UTC)[ateb]

Dyma'r newidiadau perthnasol. Mae'r newid enw yma'n un o nifer a wnaeth yr un defnyddiwr. Mae croeso i ti ei newid yn ol od wyt yn gwbwl sicr mai Tobruk ddylai fod. Dydy o neu hi ddim wedi dileu cynnwys o gwbwl, ac mae'r newidiadau i'w gweld yn rhai 'ffonetic', ac sy'n unol felly a'n polisi diweddar ar enwau gwledydd. Ond mae'r un diweddar yma, fel ti'n dweud yn amheus. Dw i wedi gofyn iddo am eglurhad. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:31, 25 Mehefin 2014 (UTC)[ateb]
Diolch. Yr unig sail dros newid enwau lle fel hyn (mae enwau gwledydd yn Gymraeg yn fater arall) ydi pan fo ffurf Gymraeg yn cael ei harfer yn gyffredinol. Dydwi ddim yn meddwl fod y cyfranydd yn deall Cymraeg chwaith, felly mae'n anodd gweld pam ei fod/bod wedi dewis gwneud hyn. Dyna'r cwbl mae o/hi wedi gwneud yma hefyd - symud tudalennau heb unrhyw esboniad o gwbl. Pe bai 'na ffurf Gymraeg ar Tobruk byddai rhywun yn disgwyl cael rhywbeth fel 'Tobrwc' ond does dim ffurf Gymraeg ar yr enw ('run fath am y newidiadau eraill, e.e. Benghazi) felly does dim cyfiawnhad o gwbl ym fy marn i. Mae'r lle yn adnabyddus i bawb fel Tobruk nid "Tobruch". 79.75.199.249 00:08, 26 Mehefin 2014 (UTC)[ateb]
Newidiwyd i "Tobruk". Llywelyn2000 (sgwrs) 22:08, 26 Mehefin 2014 (UTC)[ateb]