Theatr Dylan Thomas
Oddi ar Wicipedia
Theatr yn Abertawe yw Theatr Dylan Thomas (Saesneg: Dylan Thomas Theatre) sy'n gartref i Gwmni Little Theatr Abertawe, cwmni drama amatur a oedd unwaith o dan nawdd y bardd Cymreig Dylan Thomas. Fe'i lleolir yn ardal y Marina gyferbyn a thafarn hanesyddol "The Pumphouse".
Symudodd Cwmni Little Theatre Abertawe i'r safle hwn ym 1979, ar ôl i Gyngor Abertawe gynnig hen ystafell arddangos Oscar Chess yn ardal Doc y De i'r cwmni am eu cyfraniad i ddiwylliant yn y ddinas. Agorwyd y theatr yn swyddogol gan Syr Harry Secombe ar y 29ain o Fedi 1983, gan ei henwi ar ôl cyn-aelod enwog o'r grŵp, Dylan Thomas.[1]
Gweler hefyd [golygu]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Gwefan swyddogol Theatr Dylan Thomas. Adalwyd 10-05-2009
Dolen allanol [golygu]
- (Saesneg) Gwefan swyddogol