Harry Secombe

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Difyrrwr (canwr a chomedïwr) o Abertawe oedd Syr Harold Donald Secombe (8 Medi 1921 - 11 Ebrill 2001). Cafodd ei fagu yn Abertawe, yng nghyffiniau'r dociau a gweithiodd fel clerc yn y gwaith dur, gan ganu yng nghôr yr eglwys. Tra'n filwr ym myddin Lloegr yng Ngogledd Affrica a'r Eidal, cafodd y cyfle i ddiddannu. Ar ôl y rhyfel bu'n gweithio yn y "Windmill Theatr", Llundain.

Roedd yn ddarlledwr radio a theledu amlwg iawn aqc yn aelod o griw'r Goon Show drwy gydol y 1950'au.

Caneuon[golygu]

  • "On With The Motley" (1955)
  • "If I Ruled The World" (1963)
  • "This Is My Song" (1967)

Dyfyniadau[golygu]

  • "I suffer fools gladly because I am one of them."
  • "My voice is not so much 'bel canto' as 'can belto'."
  • "Anyone who, for 25 years, has built a career on such tenuous foundations as a high-pitched giggle, a raspberry and a sprinkling of top 'Cs' needs all the friends he can get."