The Hindu
Oddi ar Wicipedia
Papur newydd Indiaidd yw The Hindu. Mae'n bapur rhyddfrydol iaith Saesneg a sefydlwyd yn 1878 fel wythnosolyn ac a ddaeth yn bapur dyddiol yn 1889. Mae'n gwerthu tua 1,466,304 copi y dydd (2009) gyda tua 4.06 miliwn o ddarllenwyr. Lleolir y pencadlys yn Chennai (Madras), gyda swyddfeydd a chanolfannau cyhoeddi eraill yn ninasoedd Coimbatore, Bangalore, Hyderabad, Madurai, Delhi Newydd, Vizag, Thiruvanathapuram, Kochi, Vijayawada, Mangalore, Tiruchirapalli a Kolkata.[1]
Cyhoeddir argraffiad ar-lein dyddiol.
Cyfeiriadau[golygu]
- ↑ "About Us", The Hindu.
Dolenni allanol[golygu]
- Gwefan swyddogol (Saesneg)