Terfysg Caerdydd 2023

Oddi ar Wicipedia
terfysg Trelái, 2023
Mathterfysg Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 22 Mai 2023 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadTrelái Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru

Cymmerodd terfysg le yn Nhrelái, Caerdydd, ar noson 22 a 23 Mai 2023. Anafwyd hyd at 12 o swyddogion Heddlu De Cymru; rhoddwyd cerbydau lluosog ar dân a rhoddwyd gwybod am ddifrod i eiddo.[1] Digwyddodd y terfysg yn sgîl marwolaeth dau blentyn 15 oed mewn gwrthdrawiad ar Ffordd Snowden toc ar ôl 6 o’r gloch. Enw'r ddau fachgen a laddwyd oedd Kyrees Sullivan (16 oed) a Harvey Evans (15 oed), y ddau yn fechgyn lleol.[2]

Cymmerodd terfysg le yn Nhrelái (maestref fawr yng ngorllewin Caerdydd). Dywedodd Alun Michael, Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, nad oedd yr heddlu’n erlid y bechgyn ar y pryd. Dwedodd yr heddlu’n ddiweddarach, ar ôl i luniau teledu cylch cyfyng gael eu darganfod, eu bod wedi bod yn eu dilyn yn gynharach. Mae ymchwiliad wedi'i lansio i'r digwyddiad.

Arestiwyd ugain o bobl am gymryd rhan yn yr anhrefn. "Fel rhan o'r ymchwiliad hyd yn hyn, mae dros 290 o fideos o gamerâu corff heddweision wedi'u casglu," dwedodd yr heddlu.[3]

Ymateb[golygu | golygu cod]

Cafwyd ymateb chwyrn i farwolaeth y dau fachgen, i'r torcyfraith wedyn, ymateb (neu gorymateb) yr heddlu, annilisrwydd atebion yr heddlu dros yr diwrnodau wedi'r digwyddiad yn enwedig cronoleg y digwyddiad a natur y cwrsio ar ôl y bechgyn,[4] a'r sefyllfa economaidd a chymdeithasol a achosodd neu a ychwanegodd at y digwyddiad ac agweddau'r heddlu at blismona'r maestref.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Erfyn am 'lonyddwch' wedi anhrefn yng Nghaerdydd nos Lun". BBC Cymru Fyw. 24 Mai 2023. Cyrchwyd 25 Mai 2023.
  2. "Heddlu'r De yn cyhoeddi llinell amser ar ôl gwrthdrawiad Trelái". Golwg360. 25 Mai 2023.
  3. "Trelái: Arestio cyfanswm o 20 person ar ôl anhrefn". BBC Cymru Fyw. 3 Mehefin 2023. Cyrchwyd 6 Mehefin 2023.
  4. "Anhrefn Trelái: Heddlu'r De wedi derbyn fideo yn dangos fan y llu yn dilyn beic". Newyddion S4C. 23 Mai 2023.
  5. "Mark Drakeford yn addo cynllun cymunedol ar ôl 'trawma' Trelái". Newyddion S4C. 26 Mai 2023.