Telor y Cyrs
Oddi ar Wicipedia
| Telor y Cyrs | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Passeriformes |
| Teulu: | Acrocephalidae |
| Genws: | Acrocephalus |
| Rhywogaeth: | A. scirpaceus |
| Enw deuenwol | |
| Acrocephalus scirpaceus (Hermann, 1804) |
|
Mae Telor y Cyrs (Acrocephalus scirpaceus) yn aelod o deulu'r Acrocephalidae sy'n nythu yn y rhan fwyaf o gyfandir Ewrop a rhannau o orllewin Asia. Mae'n aderyn mudol, yn treulio'r gaeaf yn Affrica.
Nid yw'n aderyn hawdd ei adnabod gan ei fod yn debyg iawn i Delor y Gwerni, gyda chefn brown a gwyn ar y bol. Mae'n edrych ychydig yn fwy brown na Thelor y Cyrs, sy'n aderyn mwy llwyd, ac mae pig Telor y Gwerni yn llai. Ceir yr aderyn yma yn nythu mewn cyrs Phragmites, lle mae'n dodwy 3-5 wy. Mae'n un o'r rhywogaethau y bydd y Gog yn dodwy ei wyau yn ei nyth.
Mae Telor y Cyrs yn aderyn gweddol gyffredin yng Nghymru lle ceir cyrs Phragmites.