Tarragona

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eglwys gadeiriol Tarragona

Mae Tarragona yn ddinas yn ne Catalonia, a phrifddinas Talaith Tarragona. Credir i'r ddinas gael ei sefydlu gan y Ffeniciaid dan yr enw Tarcon. Yn y cyfnod Rhufeinig roedd yn brifddinas talaith Hispania Tarraconensis. Mae'r amffitheatr o'r cyfnod yma yn enwog ac yn atyniad i dwristiaid.

Roedd poblogaeth y ddinas yn 2006 yn 131,158. Mae gweddillion yr hen ddinas Rufeinig yn Safle Treftadaeth y Byd.

Symbolau[golygu]

Nid oes gan Tarragona faner a phais arfau swyddogol yn yr ystyr eu bod wedi eu cydnabod gan lywodraeth Catalonia, ond mae nifer yn cael eu defnyddio: